Lle a phryd
Tafarn y C诺ps, Aberystwyth - 5ed Mai 2006
Y bandiau
Mattoidz, Bob, Gola Ola
Awyrgylch
Mae awyrgylch y C诺ps yn wahanol i ganolfannau gigs eraill, yn fach ac yn 'intimate' sy'n dda gan eich bod yn teimlo'n agos iawn i'r bandiau. Gyda cynulleidfa dda yno roedd y bandiau hefyd fel petaen nhw'n mwynhau yr awyrgylch glos. Mae nosweithiau Naws wedi ail-sefydlu'r lle fel canolfan gigs tanddaearol.
Trac y noson
Nes i fwynhau nifer o ganeuon newydd set Mattoidz, ond hen ffefryn Y Dyn Telesales sy'n mynd 芒 hi - c芒n sy'n adlewyrchu holl egni y gr诺p.
Disgrifiwch y perfformiadau
Gola Ola
Dyma'r tro cyntaf i mi weld Gola Ola, er fy mod wedi clywed s么n amdanynt ers peth amser, felly doeddwn i ddim yn si诺r beth i'w ddisgwyl ond ches i ddim o'n siomi o gwbl ganddyn nhw. Roedden nhw'n dynn iawn am fand cymharol ifanc a roedd llais da iawn gan y prif ganwr a harmon茂au lleisiol yn arbennig o dda. Roedd rhai o'r caneuon yn fy atgoffa o stwff cynnar y Manics, ond roedd amrywiaeth dda i'r set o roc trwm ac ambell i gan fwy ffynci. Set arbennig o dda gan y band o Borthmadog a dwi'n si诺r fod dyfodol iddyn nhw.
Bob
Mae Bob yn fand eithaf cyfarwydd i bobl Aberystwyth erbyn hyn, gyda cwpl ohonyn nhw yn y coleg yma. Fel arfer roedden nhw'n llawn egni a'i harddull pync trwm yn ysgwyd seiliau'r C诺ps. Aeth yr hen ffefryn, a ch芒n mwyaf adnabyddus y gr诺p, Defaid, lawr yn dda iawn wrth gwrs ac mae llais cras y canwr yn eithaf unigryw yma yng Nghymru. Braf gweld Bob yn chwarae yn y C诺ps am y tro cyntaf ers peth amser.
Mattoidz
Mae Mattoidz erbyn hyn wedi sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau'r s卯n gerddoriaeth Gymraeg, rhywbeth gafodd ei gadarnhau wrth iddyn nhw ennill gwobr 'Band y Flwyddyn' yng Ngwobrau RAP eleni. Mae hyn yn bennaf, diolch i'w perfformiadau byw cyson a'r ffaith eu bod wastad yn denu torf i'w gigs. Mae'n amlwg fod y mwyafrif o'r gynulleidfa wedi dod yno i weld y 'Toidz a roedd pawb yn mwynhau eu perfformiad egn茂ol. Llwyddodd y gr诺p i sefydlu perthynas dda gyda'r gynulleidfa o'r dechrau a chafwyd nifer o ganeuon newydd yn ogystal 芒 hen ffefrynnau fel Angel a Sos Coch.
Tri band roc go iawn gyda'r ddau gyntaf yn gobeithio cyrraedd uchelfannau'r prif fand, ac mae pob gobaith ganddyn nhw ar sail y noson yma.
Uchafbwynt y noson
Roedd perfformiad Gola Ola arbennig o dda, ond yr uchafbwynt oedd cyflwyno cacen benblwydd i Steve, drymiwr Mattoidz a phawb yn ymuno i ganu pen blwydd hapus!
Peth gwaethaf am y noson
Fod dim mwy o'r gynulleidfa wedi cyrraedd yn ddigon cynnar i weld perfformiad Gola Ola.
Achlysur Roc A R么l
Roedd hi'n amlwg fod drymiwr Mattoidz wedi cael sawl peint i ddathlu ei ben blwydd!!
Beth sy'n aros yn y cof?
'Drum-sol' y drymiwr tuag at ddiwedd set Gola Ola a lwyddodd i greu argraff ar bawb yn y gynulleidfa.
Talent gorau'r noson
Mae gan Gola Ola'r potensial i fynd yn bell.
Marciau allan o ddeg
8陆
Un gair am y gig
Roc
Adolygiad gan Owain Schiavone
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.