大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Zabrinski Gig Zabrinski - Y Bae, Aberystwyth
Adolygiad o gig Zabrinski yn y Bae yn Aberystwyth, nos Iau, Hydref 5, 2006.
Awyrgylch
Gyda thafarn y C诺ps wedi cau erbyn hyn, mae'n si诺r mai lawr llawr yn y Bae ydy'r ganolfan mwyaf tanddearol yn Aberystwyth i gynnal gig. Mae'n atgoffa rhywun rhywfaint o'r Cavern yn Lerpwl gyda ystafell hir a llwyfan yn y tu blaen a tho isel. Er fod y gynulleidfa'n gymharol fach ar y noson roedd awyrgylch eithaf da erbyn y diwedd.

Trac y noson
Roedd set Zabrinski i gyd yn arbennig o dda, ond y g芒n epig Il Gotten Game ar ddiwedd y set oedd y drac orau.

Y Perfformiadau
Gyda Cowbois Rhos Botwnnog yn tynnu n么l o'r gig ar y funud olaf, dim ond un band a DJ sydd i s么n amdanyn nhw.

DJ Blunt
Cafodd set estynedig gan fod un o'r bandiau wedi tynnu allan o'r gig a gwnaeth sioe dda ohoni. Amrywiaeth eang o ganeuon o ran arddull cerddorol a chyfnod. Roedd ei set ar y diwedd yn arbennig o dda wrth iddo gymysgu effeithiau technegol i'r caneuon

Zabrinski
Er nad oeddwn wedi eu gweld yn perfformio'n fyw ers peth amser, roeddwn i'n gwbod fod rhain yn fand da, ond ar 么l clywed eu set yn y Bae dwi'n meddwl eu bod nhw'n un o fandiau gorau Cymru ar hyn o bryd. Does dim syndod fod y Super Furry Animals yn ffans mawr ohonyn nhw.

Dechreuodd y set yn ddigon di-fflach gyda rhywun yn teimlo fod bach gormod yn mynd ymlaen, ond buan iawn y daeth i'r amlwg fod yr holl offerynnau'n ffitio mewn i'w gilydd yn berffaith. Rhyw dair c芒n i mewn cafwyd y caneuon Freedom of the Highway a Raid the Farm ac o hynny ymlaen roedd yn set gwych a hoeliodd sylw'r holl gynulleidfa. Mae adleisiau weithiau o'r gr诺p mae nhw wedi cefnogi ar daith, sef y Super Furry's, ond mae'n nhw'n fwy arbrofol na rheiny os rhywbeth. Gobeithio y gwelwn ni lawer mwy o'r band yma'n gigio ledled y wlad.

Uchafbwynt y noson
Yn sicr, c芒n olaf Zabrinski, Il Gotten Game, sy'n gampwaith ac yn wych wrth ei pherfformio'n fyw. Mae'n dechrau ffwrdd yn weddol ambient cyn newid cywair yn y canol i gymysgedd tecno-dawns. Bendigedig.

Y peth gwaethaf am y noson
Bod dim mwy o bobl wedi manteisio ar y cyfle wylio'r band arbennig yma. Mae'n dorcalonnus fod well gan lawer o bobl fynd i 'barti-punt' gyda disgo yn hytrach na gig gyda band gwych lawr y l么n. Beth sy'n aros yn y cof? Y goleuadau Nadolig oedd yn addurno'r llwyfan gan y prif fand.

Talent gorau'r noson
Zabrinski

Marciau allan o ddeg
7 allan o 10 (byddai'n 9 pe bai mwy o bobl yno)

Un gair am y gig
Alternatif

Gan: Owain Schiavone

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy