Gwahoddwyd Gruff Rhys i gychwyn taith hyrwyddo ei ail albym unigol, Candylion gan yr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Bydd yn teithio led-led Prydain, ac Iwerddon yn perfformio gydag artistiaid gwahanol yn ei gefnogi. Mae hyn yn dilyn taith lwyddiannus i hyrwyddo ei albym gyntaf fel artist unigol, Yr Atal Genhedlaeth yn 2005. Mae Gruff Rhys yn enwog fel prif-ganwr a chyfansoddwr i'r gr诺p pop poblogaidd, Super Furry Animals.
Wrth i'r cant lwcus aros yn eiddgar i fynd i weld yr artist a fyddai wedi gallu denu sawl cant arall pe bai yna le iddynt, mae'r modelau cardfwrdd enfawr o'r Candylion, y Pengwin a'r Dalmation tu allan i'r DRWM yn arwydd fod sioe greadigol ar droed.
Wedi eistedd yn y theatr grwn fechan gallwn weld bwrdd hir sy'n cynnwys arno lwyth o offerynnau a theganau lliwgar si芒p anifeiliaid - tebyg i be y gwelwch mewn jymbl s锚l. Mae'n adlais o fideo Candylion lle y gwelir Gruff Rhys a Lisa J锚n yn esgus bod yn gyflwynwyr ar sioe deledu i blant.
9 Bach sy'n cefnogi Gruff ar noson gyntaf ei daith, sy'n addas iawn o gofio fod Lisa J锚n wedi bod yn menthyg ei llais ar gyfer yr albym Candylion. Heno, mae hi wedi gwisgo i weddu naws hudolus ac arallfydol y gerddoriaeth, tebyg i Eira Wen neu Sindarela gyda'i ffrog a'i gwallt hir. Ond torrir y naws plentynnaidd hwn gydag ambell i r锚g ddoniol wrth iddi stryglo i geisio gosod ei hofferynnau ynghanol y llanast lliwgar ar y bwrdd. Yn ogystal 芒'i llais cyfoethog sy'n swyno'r gynulleidfa i syrthio mewn cariad 芒 hi'n syth, mae ganddi organ law fechan, glocenspiel, telynwraig, a gitarydd.
Disgrifia 9 Bach eu cerddoriaeth fel "messed up Welsh folk songs", a mae hynny'n wir. Cewn drefniant anarferol o ganeuon adnabyddus fel Pontypridd a'r Lisa L芒n, heb amharu dim ar eu symlrwydd gwreiddiol. Set hyfryd, a mi fuasai'n wych pe bai 9 Bach yn ystyried cyfansoddi caneuon gwreiddiol ar gyfer eu perfformio rhywbryd yn y dyfodol.
Cewn ein gyrru allan i'r cyntedd tra bod ail drefnu'r llwyfan yn digwydd. Dychwelwn i'n seddi i weld dwy gadair awyren ar y llwyfan a chyfarwyddiadau diogelwch ar gyfer taith awyr yn cael ei ddarlledu dros yr uwch seinydd yn yr iaith Saesneg a rhyw iaith ddieithr arall. Mae'n amlwg fod y sioe wedi ei selio ar thema Skylon! Daw Gruff a'i fop o wallt i mewn yn edrych fel actor amheus o Fecsico. Cychwyna'r set gyda'r g芒n Candylion, a mae llais Lisa J锚n hyd yn oed yn fwy swynol yma nac ydyw ar yr albym.
Os welsoch chi erioed taith Yr Atal Genhedlaeth yn 么l yn 2005, fe gofiwch y git芒r arbennig a oedd wedi ei sticio at ei gilydd gyda felcro...a fe gofiwch chi'r g芒n Gwn Mi Wn yn cael ei recordio mewn l诺ps o leisiau dros ei gilydd a synnau od gan offerynnau plastig bach difyr. Caiff y triciau rhain eu hail-adrodd eto heno, gyda'r un ymateb syn a brwdfrydig yn dod o'r gynulleidfa.
Caiff y band neu gerddorfa lawn sydd ar yr albym Candylion eu disodli'n glyfar gan focs bach sy'n chwarae drone, metronome, glocenspiel, curiadau pop ar allweddell fatri fechan a chwiban dd诺r ar si芒p aderyn!
Mae naws anffurfiol a chartrefol iawn i'r set gyda Gruff yn siarad 芒'r gynulleidfa, a'r gynulleidfa'n gweiddi'n 么l arno yntau a caiff Alun Tan Lan ei wahodd o'r gynulleidfa i ymuno 芒'r set yn y g芒n olaf! Mae hyd yn oed yn stopio Lonesome Words ar ei hanner gan ei fod wedi anghofio weindio'r metronome, ac yna eto i esbonio'r stori'r herwgipwyr ar yr awyren ynghanol Skylon! sy'n g芒n chwarter awr o hyd!
Dau uchafbwynt i'r set yn fy marn i yw Lonesome Words a Cryndod yn dy Lais. Yn ogystal 芒 bod yn berfformiwr da, mae gan Gruff dalent anhygoel ar y git芒r a daw hynny'n amlwg yn y g芒n Lonesome Words wrth i'r rhythm cyflym greu naws anhygoel fel ei fod ar gefn ceffyl yn carlamu dros y paith yn rhywle pell fel Mecsico, efo sombrero ar ei ben, a mwstash handls beic...!! Mae'n ychwanegu i'r thema a'r ddelwedd o deithio fel y caneuon Gyrru Gyrru Gyrru a Skylon!, sy'n troi'n ddarlun hudolus tebyg i stor茂au'r Mabinogi i'r gerddoriaeth.
Mae Cryndod yn dy Lais, c芒n gan y Super Furry Animals yn ffefryn gan lawer o ddilynwyr y band, a roedd symlrwydd y g芒n yma heb offerynnau heblaw am y git芒r yn gweddu naws heddychlon y theatr i'r dim.
Wedi cerdded oddi ar y llwyfan, a chael bloeddiadau'r gynulleidfa i'w ddenu yn 么l, dychwelodd y noson i naws cychwyn y daith gyda ch芒n draddodiadol Gymreig - Molianwn, gan ddangos fod traed yr athrylith cerddorol byd-enwog ar ei daith anhygoel gyda Canylion Air yn sownd ar y ddaear yng Nghymru fach.
Leusa Llywelyn
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cyfle i gyfrannu