大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Meinir Gwilym yn perfformio G诺yl T芒n Tanat
Roedd Llanrhaeadr ym Mochnant yn brysur iawn dros benwythnos G诺yl Tan Tanat ar Fehefin 17 a 18, 2005.
Cynhaliwyd G诺yl T芒n Tanat 2007 ar benwythnos Mehefin 22 a 23. - cliciwch i ddarllen adolygiad.

Bwriad yr 诺yl oedd codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal a bu'r tywydd braf yn help mawr i ddenu pobl i'r 诺yl ac i fwynhau'r gweithgareddau.

Ar nos Wener Mehefin 17 cafwyd cyngerdd yn y babell fawr ar faes y 'rec' gyda Meinir Gwilym a'r Band yn perfformio i dorf o dros 200. Yn cefnogi Meinir Gwilym roedd y gantores Lisa Pedrig a'r gr诺p lleol o Lanerfyl, 'Strap the Button'.

Cynhaliwyd gweithgareddau ar gyfer y rhai iau yn ystod y bore canlynol. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys sioe bypedau gan 'Gwmni Cortyn'; castell gwynt; a gwybodaeth a chyngor ar sut i fagu plant yn ddwyieithog. Dilynwyd y sesiwn foreol gan ddarlleniadau barddonol gan y beirdd Iwan Llwyd a Mei Mac yng ngwesty'r Plough. Roedd y lle yn llawn dop o bobl o bob oed ac yn 么l pob s么n mae'r ddau fardd am ddod yn 么l i Lanrhaeadr yn y dyfodol agos! Parhawyd gyda'r hwyl yn hwyr i mewn i'r prynhawn gyda sesiwn jamio werinol dan ofalaeth cerddorion gwerin leol.

Daeth y digwyddiadau i ben ar y dydd Sadwrn gyda g诺yl roc yn y babell fawr. Ymysg y grwpiau oedd yn perfformio roedd grwpiau newydd lleol fel Gwiber, Vendetta a Blue Room yn ogystal ag enwau mwy adnabyddus fel Sibrydion a Kentucky AFC. Uchafbwyntiau cerddorol y noson oedd setiau Bootnic a Frizbee ac unwaith eto roedd dros 200 yn y gynulleidfa.

Mae'r trefnwyr yn hapus iawn gyda'r ymateb sydd wedi bod i'r 诺yl a'r gobaith nawr yw trefnu rhagor o ddigwyddiadau a nosweithiau Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd un o'r trefnwyr Catherine Morris, "Mae trefnu'r 诺yl wedi golygu llawer o waith caled dros y chwe mis diwethaf ond erbyn y diwedd roedd llawer o'r trigolion lleol wedi helpu i wneud T芒n Tanat yn llwyddiant tra ar yr un pryd, codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal ac i gynulleidfa ehangach, a'r gobaith nawr yw parhau gyda'r gwaith yn y dyfodol".

Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r gymuned leol (yn enwedig y Plough, y Clwb Bowlio, y Clwb P锚l-Droed a phwyllgor y 'rec') am eu cefnogaeth dros y chwe mis diwethaf ac i PAVO (Cynllun Ysbryd 2, Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 2) am gefnogaeth ariannol.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Oeddech chi yno? Rhowch eich barn am y penwythnos yma.
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy