Lle a phryd
Perfformiad yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 11eg -29ain o Ebrill, 2006.
Yr actorion
Roedd Mykal Rand (yn chwarae 'Electra') yn dod 芒'r perfformiad yn fyw efo'i symudiadau robotaidd a thrydadol. Miria Parvin (yn chwarae 'Pearl') hudodd y gynulleidfa 芒'i llais melfedaidd. Oliver Thornton chwaraeodd 'Rusty', tr锚n stem daeth i'r brig yn y ras derfynol. Tom Kanavan oedd yn chwarae 'Greaseball'; hync y noson! Roedd ei lais braidd fel un Elvis, 'sdim ryfedd fod 'Dinah the dining car' yn dwli arno!
Rhaid s么n am Michael Samuels chwaraeodd 'Poppa', roedd ei lais dwfn yn
berffaith am y caneuon blues.
Awyrgylch
Ro'dd 'na awyrgylch wych yn y Ganolfan yng Nghaerdydd efo pob sedd wedi'i chipio. Bu'r gynulleidfa yn ymateb yn dda i'r caneuon ac yn y mannau digri hefyd.
C芒n orau'r noson
Rhaid dweud fod caneuon Andrew Lloyd Webber wedi cael eu canu'n broffesiynol iawn a bod y coriograffi gan Leyla Pellegrini a symudiadau sglefrio Andrew Millar wedi perffeithio perfformiad disglair y cast felly anodd yw coroni un g芒n. Gan fod deuawd 'Pearl' a 'Rusty' yn olygfa 'Only He' wedi dod 芒 deigryn i'm llygaid, dyma'r un orau yn fy marn i.
Disgrifiad o'r perfformiad
Roedd awyrgylch egn茂ol ar y llwyfan efo'r holl fynd y sglefrwyr. Roedd brwdfrydedd y cast ynghyd 芒'r dawnsio yn edrych fel pe bai wedi cael ei animeiddio ac felly yn rhoi delwedd annynol i'r perfformiad.
Y Ffilm
Pan oedd 'na ras rhwng y trenau, roedd ffilm 3D yn ymddangos ar y llwyfan. Bu'n rhaid i'r gynulleidfa wisgo sbectol 3D i weld y ffilm yn dod yn fyw. (Bu ambell i sgrech i'w glywed pan ymddangosai fod gwrthrych yn dod amdanom!)
Y set, golau a'r gwisgoedd
Roedd y set yn symud yn gyson er mwyn caniatau lle i'r sglefrwyr wneud eu triciau. Gwnaeth Howard Eaton ddefnydd gwych o'r goleuadau llachar a fywiogodd y llwyfan. Gwisgoedd unigryw, llachar a deniadol oedd ar y cast oedd yn adlewyrchu eu cymeriadau.
Uchafbwynt y noson
Y diweddglo oedd yn crisialu'r noson efo'r cymysgwch o'r caneuon a'r dawnsiau orau.
Y peth gwaethaf am y noson
Y tocyn costus o 拢35 ond credaf fod y perfformiad yn haeddu pob ceiniog.
Beth sy'n aros yn y cof
Defnyddiwyd defnydd gwych o symudiadau sglefrio a lleisiau dawnus o bedwarawd y merched yn y g芒n 'Crazy'.
Talent orau'r perfformiad
Rhaid rhoi clod i 'Hip Hopper 1,2 a 3', roedd eu dawnsio modern o neidio dros y haul a'i triciau ar eu sglefrwyr yn synnu'r gynulleidfa; tipyn o gamp i ganu ar yr un pryd!
Marciau allan o ddeg
Deg!
Cyngor
Rwy'n eich cynghori i bwcio ticed mor gynted 芒 fo'n bosib! Wedi cael ei berfformio yn yr West End ers hydoedd mae'r perfformiad yma'n ffres ac yn si诺r o'ch diddanu, pa bynnag oedran ydych chi.
Un gair am y perfformiad
Anghredadwy (gan fod yr holl beth yn fyw!)
Adolygiad gan Natalie Moore Davwen o Ysgol Gyfun Llanbed
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.