大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dafydd Iwan yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd Rhuthun 2006 Goreuon Dafydd Iwan
Gorffennaf 2006.
Adolygiad o'r albwm 'Goreuon Dafydd Iwan' gan Dylan Davies.
Wedi i mam glywed bod C.D. gan Dafydd Iwan yn cyrraedd y siopau roedd rhaid mynd y funud honno i'w phrynu. Dyma 'r genedl a fyddai'n arfer dilyn perfformwyr Canu Pop cynta Cymru , pobl fel Huw Jones, Hogiau'r Wyddfa , a Hogiau Llandegai. Yn fy marn i nid yw canu pop Cymraeg wedi symud ymlaen rhyw lawer ers y dyddiau cynnar yma.

Yn groes i'r graen rhaid oedd eistedd i wrando arni . Nid wyf i'n rhy hoff o wrando ar y math yma o ganu.

Rydym fel cenedl yn ymwybodol o gyfraniad Dafydd Iwan i'r canu ysgafn a chanu protest yng Nghymru ers pedwar degawd a'i ddylanwad ar yr iaith Gymraeg.

Y peth cyntaf a'm trawodd wrth edrych ar glawr y C.D. mor syml ydoedd, sef llun o'r canwr a'i enw wedi ei lofnodi ganddo yn ei lawysgrifen. Prawf nad oes rhaid wrth unrhyw gimig i werthu unrhyw C.D. gan Dafydd Iwan.

Agor y cas a gweld nodiadau ar y caneuon yn Saesneg. Mae hyn yn rhywbeth newydd a fedrai annog y di Gymraeg i brynu recordiau Cymraeg.

Wrth wrando ar y caneuon sylwais nad yw yr arddull, ar wahan i offerynnau ychwanegol gael ei adio at y git芒r ac ambell i g芒n yn cymryd tempo cyflymach wedi newid o gwbwl ers imi glywed rhai o recordiau cyntaf gan mam rai blynyddoedd yn 么l.

Un peth sy'n amlwg, mae Dafydd Iwan yn medru canu mewn tiwn trwy gydol y caneuon. Mae ganddo neges yn ei ganeuon nid gweiddi, neidio a sgrechian dros y llwyfan fel a welwn gan rai o'r grwpiau pop ein hoes ni.

Rydym yn cymharu Dafydd Iwan gyda chymreictod. Daw hyn i'r amlwg yn y g芒n "Wrth feddwl am fy Nghymru". C芒n a gyfansoddwyd ganddo yn y 1960au. Mae ei ganeuon bob amser yn amserol ac yn oesol er engraifft 'Hawl i Fyw' sy'n delio 芒 thlodi yn y Trydydd Byd. Ac er i'r lluniau ar y sgrin ein cyffroi i roi'n dwylo yn ein pocedi, dros dro yn unig mae'n haelioni'n para. Yr un yw hawl plentyn ym mhob rhan o'r byd, ond er gwaetha pawb a phopeth bydd hwn yn broblem sy gyda ni, ac a fydd gyda ni tra pery dynoliaeth.

Wrth wrando ar y caneuon gwelaf fod llawer o'r caneon yn deyrnged i bobl sy'n meddwl llawer iddo, pobl fel D.J., Mandela a Saunders Lewis .. Cenedlaetholwyr bob un.

Dim ond un beirniadaeth sy gennyf, mae'n drueni na fyddai wedi cynnwys rhai o ganeuon megis "gee geffyl bach" neu "c芒n Mrs. Thatcher" rhywbeth efallai i ysgafnhau'r gwrando.

Wrth ddod at ddiwedd gwrandawiad y C.D. rhaid imi gyfadde fy mod wedi cael fy hudo gan Dafydd Iwan ac yn medru gweld pam fod mam yn gymaint o ffan. Mae'n gas gennyf orfod cyfadde nad oes gennym ni, yr oes heddiw, neb a ddaw i esgidiau Dafydd Iwan. Trueni na fyddai'n trefnu taith er mwyn hyrwyddo'r C.D.

Tybed a fydd rhagor o "Oreuon Dafydd Iwan " yn gweld golau dydd cyn bo hir?

Adolygiad gan Dylan Davies

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch

Kate Marland o Fflint/Cymru
Rydyn wedi bod yn dysgu y g芒n hawl i fyw yn ein wersi cor yn ein hysgol (Maes Garmon yr wyddgrug) ac wnaeth o wneud i fy ffrind crio, rwyn hoffi y can n fawr iawn ac mae'n rhaid canu o ar ben ein hun gwers nesa!!

Caryl a Gwen o ardal fynyddig ger Llanrwst
Hoff iawn o'r g芒n "hawl i fyw". Ei chanu mewn parti merched. Pawb wedi dotio. Ymateb trist ond eto hapus. Diolch D.I!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy