"Penderfynwyd sefydlu Clwb Cerdded Crwydro Caron yn 么l yn 2003 pan ddaeth gr诺p o gerddwyr a mynyddywr brwdfrydig at ei gilydd i sefydlu casgliad o 8 taith yn cwmpasu ardal Tregaron a'r Cylch.
Cefnogwyd rhai o'r teithiau yma'n dda iawn ac aeth yr arweinyddion ar gwrs mynydda 6 diwrnod i ddatblygu a gwella eu sgiliau arwain. Trefnwyd yr hyfforddiant gan fudiad datblygu cymundol Curiad Caron Cyf. ac fe'i ariannwyd gan Gronfa Cymunedau'n Gyntaf. Yn ystod yr hyfforddiant yma, a thros beint neu ddau mewn tafarn ar llethrau Bannau Brycheiniog, penderfynwyd sefydlu clwb. Wrth gwrs wrth sefydlu clwb roedd rhai cael swyddogion, ac ar 么l perswad a chocsio ac ambell i shandi gwlyb, penderfynwyd pwy oedd i wneud beth a phryd.
Yn ystod Nadolig 2003 trefnwyd taith swyddogol gyntaf y clwb o'r enw 'Taith Taclo'r Twrci' gyda hyd at 60 o bobl yn ymgasglu ar Sgw芒r Tregaron i losgi'r calor茂au ychwanegol hynny sydd yn bodoli dros 诺yl y Nadolig! Roedd hyn wrth gwrs yn gyfle i godi proffeil y clwb yn syth a gwelwyd bryd hynny fod yna angen amlwg am glwb cerdded a bod yna sicrhad y byddai cefnogaeth da o'r aelodau o leiaf.
Trefnwyd felly 14 o deithiau yn 2004 gyda'r rheiny yn amrwyio o deithiau hamddenol lleol i rhai tu allan i'r milltir sgw芒r mewn ardalaoedd fel Eryri , Sir Benfro ac wrth gwrs Bannau Brycheiniog!
Gyda'r clwb wedi'i sefydlu'n gadarn erbyn diwedd 2004 braf oedd gweld bod 72 wedi ymaelodi gydag amrywiaeth o oedrannau a phrofiad cerdded. Yr hyn a sylwyd hefyd gymaint o'n haelodau nad oedd yn byw yn lleol, hynny yw, yn ymwelwyr i'r ardal neu'n byw tu allan i gyffuniau Tregaron. Felly yn sg卯l hyn, penodwyd arwyddair i'r clwb sef 'Gwasanaethu'r gymuned leol-ateb anghenion ymwelwyr.'
Wrth gwrs roedd y galw am sialensau'n codi'n aml ac felly aethpwyd ati i drefnu teithiau i fyny'r Wyddfa gyda nifer o bobl yn cael y cyfle i gyrraedd y copa am y tro cyntaf erioed.
Roedd yr aelodau yn dechrau cael blas arni erbyn diwedd 2004 yn enwedig pan gynhaliwyd Cinio Blynyddol cynta'r clwb yng Ngwesty'r Talbot yn Nhregearon. Yno i'n hannerch oedd y Bonheddwr Caradog Jones. Dyn hynod o addfwyn, gonest a di-drafferth. Ni allai'r rhai na adweinir Caradog ddeall sut y llwyddodd dyn mor addfwyn a hynaws gyrraedd copa ffyrnig ac anfaddeuol mynydd ucha'r byd, Everest. Ac yntau'n gynnyrch ardal Pontrhydfendigaid, roedd Caradog yno i gefnogi gweithgareddau Clwb Cerdded Crwydro Caron ac yn ymfalch茂o fod y clwb wedi holi iddo fod ei Llywydd Anrhydeddus.
Erbyn 2005 roedd gan y clwb 27 o deithiau 89 o aelodau a 12 arweinydd. Roedd y clwb wedi derbyn cefnogaeth nifer o fusnesau'r ardal yn ogystal 芒 chefnogaeth oddi wrth Y Gist Cymunedol Sportlot, Cymunedau'n Gyntaf a Cyngor Tref Tregaron. Cytunir, heblaw am y gefnogaeth hyn, ni fyddai gweithgareddau'r clwb fod wedi mynnu gymaint yn ei dyddiau cynnar ac am y cefnogaeth hyn mae Clwb Cerdded Crwydro Caron yn ddiolchgar tu hwnt.
Gydag amserlen 2005 yn dennu d诺r o'r dannedd, ymunodd casgliadau newydd o bobl 芒'r clwb wrth i newyddion positif 'grwydro' ar hyd Ceredigion a thu hwnt. Ac yn hyn o beth mae'r clwb erbyn hyn yn denu mwy a mwy i gerdded. Mae'r clwb yn mentro yn ei weithgareddau ac yn ymateb i sylwadau a syniadau'r aelodau. Mae'n fodlon creu digwyddiadau diddorol megis Sialens Twm Sion Cati, Taith Clasurol Y Barcud Coch, Taith George Borrow a Thaith Y Foneddiges - Yr Hafod.
Mae teithiau tebyg i hyn yn gwneud y mwyaf o'r adnoddau crai lleol sy'n bodoli sef treftadaeth, diwylliant a amgylchfyd.
Os hoffech ymuno 芒 theithiau'r clwb cerdded yma danfonwch e-bost at daf@cerddedtregaron.co.uk neu rhowch olwg dros safwe'r clwb
Mae croeso i chi ymuno 芒 ni felly beth amdani, dewch i gerdded dewch i grwydro 芒 Chlwb Cerdded Crwydro Caron."
Erthygl gan Dafydd Morgan, Ysgrifenydd y Clwb
Lluniau rhai o deithiau Clwb Cerdded Crwydro Caron...
Crwydro'r Canolbarth: Eich awgrymiadau chi.