Cynhaliwyd penwythnos o ddathlu, gyda'r gala fawreddog yn goron ar y cyfan, rhwng dydd Gwener Tachwedd 3 a nos Sul, Tachwedd 5, 2006.
Pan ofynnwyd i ni a fuasem ni, fel clwb awydd gael y cyfle i gymeryd rhan mewn c么r Cymraeg yng Ngala'r Clwb Ffermwyr Ifanc yng Nghaerdydd, doedd dim syniad gennym ni am yr antur oedd o'n blaenau. Cymdeithasau o ffermwyr ifanc ledled Cymru oll yn ymgasglu ym mae prifddinas Cymru - a oedd hyn yn freuddwyd neu be'?
Gofynnwyd i ni gymeryd rhan ym mis Tachwedd 2005, trwy ein hysgrifenyddes ar y pryd. Roedd unrhyw fanylion penodol yngl欧n 芒'r digwyddiad ar yr adeg honno yn gymharol brin, ac wrth i fisoedd haf 2006 agosau, daeth y syniad o ganu yn y brifddinas yn fwy a mwy annhebygol. Erbyn diwedd mis Mehefin, serch hynny, daeth llythyr trwy'r post yn datgan y teitl: "YFC GALA CFfI - DATHLIAD 70 CELEBRATION"
Doedd hwn ddim am fod yn gyngerdd CFfI arferol, roedd hynny'n amlwg, ond yn ddigwyddiad cenedlaethol i ddathlu mudiad ieuenctid sydd wedi gwneud cymaint i hyrwyddo cefn gwlad a thraddodiadau Cymreig dros y blynyddoedd.
Dydd Sul, Gorffennaf 30, 2006 - yr ymarfer cyntaf
Dechreuodd ymarferion y c么r Cymraeg ar ddydd Sul, 30 o Orffennaf yn Neuadd Gymunedol Tal-y-bont, Aberystwyth, lle cyflwynwyd y c么r i'w harweinydd, yr unigryw Mrs. Magwen Pughe, ac wrth gwrs, i'r darnau prawf. Cawsom ein cyflwyno hefyd i ddulliau unigryw ein harweinyddes o "gynhesu i fyny" - defod a fyddai'n cael ei hail-adrodd ar ddechrau pob ymarfer!
"Pavarotti has got a big belly!"
Yn gyntaf, mae'n rhaid chwifio eich breichiau yn uchel yn yr awyr cyn eu gostwng yn araf. Yna, ysgwyd y llaw dde yn ysgafn; yna'r llaw chwith; yna'r droed dde; yna'r droed chwith, a hynny er mwyn ystwytho'r corff - yr union beth i'ch deffro wedi'r noswaith gynt! Yna, yr ymarferion llais amrywiol. Byddai'n rhaid yngan cytseiniaid yn eu tro, wrth ganu, ac fe lenwyd y neuadd 芒 channoedd o ffermwyr ieuanc yn canu "mi mi mi mi ma ma ma ma mo mo mo mo" nerth esgyrn eu pennau! Yna, y linell anfarwol a fyddai'n gwneud i'r c么r cyfan chwerthin..."Pavarotti has got a big belly!".
Mynnai Magwen ein bod yn rhoi ein calon i'r linell honno a'n bod yn defnyddio ein hacen Eidalaidd gorau wrth ei ddweud. Os na byddem yn gwneud y tro, byddai hithau wedyn yn codi i'r llwyfan, gwyro ei bol tua'r gynulleidfa a bloeddio, "Pavarotti has got'a big'a belly" er mwyn dangos i ni, yr amaturiaid, sut i wneud hynny'n iawn! Yr un math o strwythur a fyddai i'w gweld ar ddechrau bron pob ymarfer o hyn ymlaen, a gwyddem yn iawn fod Magwen yn disgwyl y gorau ohonom ni i gyd. Yn wir, "she meant business"!
Yna dechreuasom ar y gwaith caled o ddysgu'r darnau. Er y gwelwyd fod nifer y darnau y byddem yn eu canu yn lleihau'n sylweddol o ymarfer i ymarfer, dyma oedd ein prif bwrpas i fod yno yn yr ymarferion, oni bai am yr elfen o hwyl a oedd ynghlwm 芒'r profiad. Roedd clywed neuadd bentref Tal-y-bont yn atseinio gyda lleisiau cannoedd o ffermwyr ieuanc yn dipyn o foddhad i ddweud y lleiaf, ac yn ysgogiad i ni, fel clwb, barhau ar y daith yma.
Dydd Gwener, Medi 1, 2006
Rhannwyd yr ymarfer nesaf yn ddau - bu i aelodau clybiau'r De fynd i ymarfer lawr yn Llanbedr Pont Steffan, tra y bu i ni, ac aelodau rhanbarthau'r Gogledd, deithio i Ysgol y Berwyn, y Bala, i ymarfer, a hynny ar Fedi'r 1af. Yn absenoldeb Magwen Pughe, cymerodd Nia Jones, Aelwyd yr Ynys, yr awenau o baratoi'r c么r ar y diwrnod hwnnw, ac er fod ei dulliau hi o arwain ychydig yn wahanol i rai Magwen, doedd hi ddim yn rhy hir nes fod y neuadd hwnnw wedi llenwi 芒 sain y c么r.
Dydd Sul, Hydref 1, 2006
Yn 么l i Dal-y-bont yr aethom ar ddydd Sul, Hydref 1af a Magwen yn disgwyl fod y cop茂au yn cael eu gosod ymaith am y tro cyntaf fel y gallem ymarfer ychydig o symudiadau ar gyfer ambell i g芒n. Yn yr ymarfer hwn, roedd criw camera yn aros amdanom, felly, nid yn unig roedd yn rhaid i ni ganu ein gorau glas ar y diwrnod hwnnw, ond roedd yn rhaid cynhesu fyny a mynd trwy symudiadau'r caneuon i gyd o flaen lens camera! Pwysau mawr i ddweud y lleiaf, ond profiad hynod i ni fel clwb. Yn yr ymarfer hwn yn ogystal cawsom gadarnhad am fanylion llety a theithio i Gaerdydd - arwydd clir fod y diwrnod mawr yn agosau!
Dydd Sul, Hydref 15, 2006
Cafwyd ymarfer ychwanegol yn Llanelwedd ar Hydref 15fed er mwyn medru dod i arfer 芒'r symudiadau gwahanol, gan ddod 芒'r ymarferion craidd i ben.
Penwythnos Hydref 28 a 29, 2006
Cynhelir yr ymarferion olaf cyn i ni adael am Gaerdydd. Yr unig beth y mae aelodau'r clwb yn medru siarad amdano yn yr ysgol yw am eu brwdfrydedd am fentro i ganu yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, erbyn hyn, ac wrth i'r diwrnod mawr brysur agosau, gwyddwn fod ffermwyr ifanc Dyffryn Banw yn barod am yr antur sydd o'n blaenau!
Dymunwch lwc dda i ni, a, gobeithio y gwelwn chi yng Nghaerdydd!
Lynwen Roberts
Cliciwch yma i ddarllen ail ran y dyddiadur - yr ymarferion a'r noson fawr.
Cliciwch yma i weld rhai lluniau o'r Gala ar Dachwedd 5