Roedd y Llew Du yn Llambed yn fwrlwm o bobl wedi troi allan i fod yn rhan o lansiad swyddogol y llyfr digrifwch hwn. Pan gyrhaeddais roedd criw S4C yn brysur yn ffilmio Emyr Llewelyn ar gyfer y rhaglen Wedi 7. Rhoddwyd cyfle, tra'r oedd hyn yn cymryd lle, i bobl ymgasglu wrth y bar cyn cymryd eu seddau am noson o adloniant heb ei ail ymysg rhai o ddigrifwyr amlycaf Cymru.
Croesawyd y gynulleidfa gan Alun Jones o Bow Street cyn i Emyr Llewelyn gymryd yr awenau a chyflwyno artist cyntaf y noson - John Meirion Jones. Aeth John ati'n syth i gael y gynulleidfa i ganu cyn mynd ymlaen i'n diddanu 芒 straeon o'r cyfnod pan fu'n athro. Cyflwynwyd yr awenau wedyn i Betty Davies a Gareth Davies o Dalsarn a fu'n difyrru gyda phenillion a j么cs.
Bu bron i mi fethu sefyll ar fy sedd am chwerthin wrth i'r noson fynd yn ei blaen gyda Garnon Davies o Ffostrasol yn adrodd j么cs. Roedd hi'n amlwg mai dyma oedd naws y noson i weddill y gynulleidfa hefyd. Aethpwyd ymlaen i'n difyrru wedyn gan Gret Jenkins, Mair Garnon James, Lyn Ebenezer a Hywel Lloyd - pob un ohonynt yn amlwg yn feistr ar ddawn y cyfarwydd.
Clowyd y noson gan sgets a'i cyflwynwyd gan bobl leol o ardal Y Gambo yn bennaf. Roedd hon eto yn werth ei gweld ac erbyn i Emyr Llewelyn orffen diolch i bob un o'r artistiaid a chloi'r noson roeddwn i'n dal i fod yn chwerthin.
Nid wyf wedi cael cyfle i roi cipolwg ar Hiwmor y Cardi eto ond os yw unrhyw beth yn debyg i'r hiwmor a gafwyd ar y noson lansio (ac rwy'n si诺r ei fod) yna prynwch ar unwaith! Rwy'n si诺r y bydd unrhyw gardi gwerth ei halen yn fodlon talu 拢4.95 am y trysor bach hwn.
Adolygiad gan Heilin Thomas.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|