Ewch i edrych ar luniau o'r cast a'r dawnswyr yn ymarfer ar gyfer Panto Felinfach 2004.Os ydych chi'n byw yn nyffryn Aeron, mae'n bur debyg eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gyda phantomeim Nadolig blynyddol Felinfach. Byddwch yn gwybod i beidio disgwyl Sinderela na Jac a'r Goeden Ffa. Does dim dwy chwaer hyll na gwrach na thywysog, na'r un o'r cymeriadau cyfarwydd - yn hytrach mae gennych gymeriadau hanesyddol sy'n cael eu portreadu gan bobl leol, mewn ffordd ddoniol ac unigryw.
Rhaid bod yn barod am lawer o j么cs lleol eu naws, llawer o ruthro o gwmpas a rhywbeth ychydig bach yn wahanol, heb anghofio'r b诺ian a'r hisian arferol.
Mi es i draw i Theatr Felinfach ar ddydd Sul braf o Dachwedd lle roedd y cast a'r dawnswyr yn ymarfer at y perfformiadau ddechrau Rhagfyr, a chefais air gyda Phennaeth y Theatr a Chyfarwyddwr y panto, Dwynwen Lloyd Raggett.
Pryd ddechreuodd Pantomeim Theatr Felinfach?
Roedd y Panto yn bodoli cyn i'r theatr agor rhyw 32 mlynedd yn 么l felly mae wedi bod yn mynd ers yn hirach na hynny.
Mae Pantomeim Felinfach yn seiliedig ar stori 芒 naws leol iddi bob blwyddyn, wedi ei haddasu i sgript gyda chriw o actorion lleol, dwedwch ychydig am gefndir y panto eleni.
Mae yna brosiect sgwennu cymunedol yn gweithio ar hyn bob blwyddyn. Mae gr诺p o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd, a rydw i'n arwain y syniadau. Mae rhyw chwech neu saith syniad yn dod i'r wyneb, wedyn rydyn ni'n dewis stori neu elfen o'r syniadau hynny.
Mae'r t卯m wedyn yn mynd ati i ddatblygu'r syniadau yna a'u troi nhw i mewn i sinopsis, ac yna yn addasu'r sinopsis i mewn i sgript. Mae'r cyfan yn dod ataf i trwy e-bost a wedyn rydw i'n ei olygu ac yn ysgrifennu geiriau'r caneuon ac yn y blaen. Mae'n gyfle gwych i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau sgrifennu a pherfformio.
Beth am y stori eleni? Rhowch flas i ni o'r plot heb ddatgelu gormod!
Mae'r stori yn mynd i America eleni i Oakhill yn Ohio. Mae'n seiliedig ar yr hanes bod llawer o Gymry wedi ymfudo yno yn y 19eg ganrif.
Mae'r stori yn America hefyd yn plethu gyda hanes Plas y Trawscoed, a down ar draws Iarll y Trawsgoed sy'n gas i'r werin bobl. Mae'n gwahardd hela ac yn penodi cipar o'r enw Joseph Butler. Mae Wil Cefn Coch, cymeriad lleol, ma's yn hela ac yn saethu'r cipar yn ddamweiniol, ac yna mae'n ceisio ffoi, gydag ymgyrch yn cychwyn i geisio ei ddal. Mae hyn yn mynd 芒'r cast i grombil cloc a nifer o sefyllfaoedd doniol eraill trwy geisio helpu Wil.
Mae cymeriadau cyfarwydd y panto gan gynnwys y Ficer, y Sgweier, Dalis a Dalis a mwy yn rhan o'r cast hefyd wrth gwrs.
Faint o ymarfer a gwaith paratoi sydd yn mynd i mewn i'r Pantomeim yn flynyddol?
Rydyn ni'n ymarfer am gyfres o bump dydd Sul am bum wythnos cyn y perfformiadau a dwy noson yn yr wythnos bob wythnos. Mae yna ddeg perfformiad i gyd, tri ar y dydd Sadwrn cyntaf - Rhagfyr 4ydd, un bob nos yn yr wythnos ac yna dau ar y Sadwrn olaf, sef Rhagfyr 11.
Os ydych chi am bantomeim ychydig yn wahanol - dyma'r un i chi. Gyda'r dynion drwg arferol, Tegi Wegi y dylwythen deg, y Ficer, y Sgweier a mwy, byddwch yn siwr o adael y theatr wedi cael profiad gwahanol iawn.
Gan: Elin Wyn.