Helo, fy enw i ydy Owain Ll欧r a rwy'n dod o Sancl锚r yn Sir G芒r. Rwy' di bod yn ymwelydd cyson 芒'r sioe yn Llanelwedd ers blynydde' - ers pan o'n i tua pedair neu bump oed, a chael lot fawr o sbort. Mae eleni yn mynd i fod yn eithaf' gwahanol i fi achos mi fyddai'n gweithio yno am y pedwar diwrnod fel rhedwr gyda chwmni teledu Telesg么p. Mae hyn yn golygu helpu'r criw camera, y t卯m cynhyrchu a lot o redeg o gwmpas! Felly byddaf yn cael gwir flas ar fywyd o amgylch y cae. Ond cyn hynny mae lot gen i ar fy mhl芒t! Dw i newydd orffen fy arholiadau Lefel A ac AS mewn Cymraeg, Drama, Hanes, Saesneg a Ffrangeg. Ond erbyn y byddwch chi'n darllen y pwt yma mi fydda i yn torheulio a joio yn Magaluf ar 么l yr arholiadau! Fydda i n么l yng Nghymru ddiwrnod cyn y sioe, ac yna'n mynd yn syth i Lanelwedd. Gobeithio fydd chydig bach o lais ar 么l gen i erbyn hynny! Mae'r bywyd nos yn y sioe yn gr锚t. Fe wnes i aros lan yna llynnedd am y pedair noson, a joio ma's draw. Mae rhai o'n ffrindiau i yn dod lan eto eleni a byddwn yn barod am lot fawr o sbort. Dewch n么l yma yn ystod wythnos y sioe, ac mi wna' i ddod 芒'r newyddion i gyd i chi - neu falle welaf i chi yna!
|