Yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Freiburg yn yr Almaen yn 1985 gwelais i fod cwrs iaith o'r enw 'Kymrisch' (Cymraeg) ar gael yn yr amserlen ddarlithoedd.
Gan nad oeddwn i erioed wedi clywed am yr iaith hon es i i'r cwrs i weld pa fath o iaith oedd hi ac fe'i hoffais yn fawr iawn. Dysgais i Gymraeg am ddwy flynedd wedyn yn Freiburg.
Ddwy flynedd yn hwyrach, ar 么l i fi symud i Brifysgol K枚ln (Cwlen/Cologne) ces i gynnig am ysgoloriaeth Erasmus (rhaglen cyfnewid myfyrwyr yn Ewrop) i fynd i Aberystwyth am flwyddyn. Mwynheais fy amser yng Nghymru yn fawr iawn ac es i am flwyddyn arall. O 1993 ymlaen ysgrifennais draethawd doethuriaeth am hanes y ferf Gymraeg yn adran ieitheg Brifysgol Halle yn yr Almaen, wedi graddio yn 1998.
Yn y cyfamser treuliais lawer o amser yn y Llyfrgell Genedlaethol - bob haf am wythnosau. Yn 2002 ces i gynnig gwaith yn y Canolfan Uwchfryddau Celtaidd a bues i'n gweithio ar y prosiect 'Geiriadur Cymharol Celteg'.
Doedd hi ddim yn anodd dod o hyd i ffrindiau Cymraeg. Mae pobl sy'n dysgu Cymraeg yn cael ei croesawu yn galonnog yng Nghymru.Mae Aberystwyth yn le rhyngwladol - e. e. roedd un o'm ffrindiau yn dod o Iwerddon ac yn siarad Cymraeg hefyd. Llwyddais i siarad Cymraeg bron drwy'r amser yn Aberystwyth - prin y siaradais Saesneg o gwbl.
Roedd yr astudiaethau yn yr Hen Goleg yn ddiddorol dros ben - llenyddiaeth Gymraeg ym mhob cyfnod, hanes y Gymraeg, ieitheg, Gwyddeleg a Llydwaeg hyd yn oed - popeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd fy ffrindiau i gyd yn siarad Cymraeg a gweithiais fel gweinyddes yn y C诺ps lle roedd llawer o bobl Cymraeg hefyd. Daeth nifer ohonynt yno dim ond i weld Almaenes sy'n siarad Cymraeg! Doedd hynny ddim yn gyffredin yr adeg 'na.
Arhosais i yn Aberystwyth dros y Nadolig ddwywaith pan fydd hi'n droi'n dref Gymraeg gan mai dim ond y bobl lleol sydd ar 么l. Flynyddoedd yn ddiweddarach des i ar draws staff Cymraeg yn y 'Ganolfan' - gwych. Felly mae hi'n bosib osgoi'r Saesneg mewn tref Gymraeg fel Aberystwyth.
Roedd y bobl yng Nghymru yn garedig iawn. Teimlais i fel rhan o'r gymdeithas - dim problemau o gwbl. Ces i fy ngwahodd i dai yn Aberystwyth ac yn yr holl wlad yn aml. Teithiais i o gwmpas Cymru cyn amled ag oedd bosib. Ar 么l i fi astudio yn Aberystwyth roedd llawer o bobl yn meddwl dylwn i aros yng Nghymru, y peth gorau fyddai i fi briodi Cymro a chael llawer o blant. Roedden nhw'n drist pan es i'n 么l i'r Almaen, a finnau hefyd.
Nawr rydw i'n awdures amser llawn, wedi ysgrifennu llyfr ymadroddion Cymraeg, llyfr dysgu Cymraeg a theithlyfr am Gymru - i gyd drwy gyfrwng yr Almaeneg. Diolch yn fawr i bawb am eu cymorth!
Gan: Britta Schulze-Thulin
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Dysgwraig Cymraeg o'r Almaen
Gwefan Aberystwyth
|