Mae llawer o bobl yng Nghymru'n dysgu Cymraeg nawr - ond beth am wledydd eraill?
Byddech yn synnu faint o Gymraeg sydd ar gael yn yr Almaen - yn nhref Halle ar lan Afon Saale.
Hen dref ydy Halle wedi cael ei chrybwyll gyntaf yn 806 ac yn dathlu 1,200 mlynedd eleni, 2006.
Mae 237,000 o bobl yn byw yno ac ar wahân i'r halen sy'n dal i gael ei gynhyrchu yno mewn dull traddodiadol mae'n adnabyddus oherwydd ei chysylltiad â'r cyfansoddwr Handel, ei hamgueddfa Beatles ac am ddau gastell.
Yn ôl y chwedl tarddiad yr enw Halle yw'r gair Celtaidd am halen gan i halen gael ei gloddio yno ers dwy fil o flynyddoedd cyn geni Crist.
Ond er mor hyfryd yw'r syniad hwn y gwir yw na ddaeth y Celtiaid cyn belled i'r gogledd a hyn - mae Halle yng nghanol yr Almaen ond y Celtiaid yn trigo fwy i'r de tua Bafaria.
Beth bynnag am hynny, mae'n lle Cymreig iawn erbyn hyn gyda chyrsiau Cymraeg ar gael er 1993 - ym mhrifysgol Halle yn gyntaf ac yna, er 2002, yn y ganolfan addysg i oedolion hefyd.
Mae dau neu dri chwrs bob blwyddyn gyda phob un yn parhau am dri neu bedwar mis.
Mae cyrsiau carlam hefyd a phobl o cyn belled â Stuttgart, tua 450 milltir i ffwrdd, yn eu mynychu.
Yn 2003 bu Cyfarfod Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg yr Almaen" cyntaf yn Halle yn cael ei ddilyn gan gyfarfodydd Cymraeg eraill yn Berlin (2004) a Basel (2006).
Eleni cychwynnwyd Siop Siarad mewn tafarn Wyddelig - does dim tafarn Gymreig yn Halle hyd yn hyn! - lle mae grŵp bach yn cwrdd bob pythefnos i siarad Cymraeg.
Maen nhw'n trafod llawer o themâu ac yn codir baner Cymru bob tro.
Erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl leol eisiau dysgu'r Gymraeg a darperir teithiau o amgylch y dref drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond peidiwch disgwyl clywed pawb yn Halle yn siarad Cymraeg - yn hytrach, cysylltwch ar ebost
â mi.
Mae Halle yn dref ddiddorol iawn gyda chroeso cynnes bob amser - a hwnnw yn y Gymraeg hefyd os dowch ar draws y person iawn!
Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|