大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Lowri Johnston a Catrin Rees o flaen Stadiwm Murreyfield yng Nghaeredin Trip i Gaeredin
Lowri Johnston yn adrodd hanes trip Cymdeithas y Geltaidd Aberystwyth i Gaeredin yn Chwefror 2007.
Mae'n draddodiad gyda ni'r myfyrwyr yn Aberystwyth i fynd ar 'drip rygbi' bob blwyddyn yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad i un o'r dinasoedd lle mae Cymru yn chwarae. Mae rhai yn defnyddio'r penwythnos i ffwrdd fel cyfle i weld rhai o ddinasoedd hyfrtaf Ewrop, rhai eraill am y rygbi ei hunan, a rhai eraill yn ei ddefnyddio i flasu cymaint o gwrw gwahanol a sy'n bosib mewn penwythnos... Ond beth bynnag yw'r rheswm, ma' nhw wastad yn benwythnosau i'w cofio (neu i'w anghofio i rai!)

Eira
Eleni, aeth 200 ohonom sy'n aelodau o Gymdeithas y Geltaidd yn Aberystwyth am dair noson i Gaeredin, ar gyfer g锚m Cymru yn erbyn yr Alban. Yn nodweddiadol o dripiau ganddon ni fel myfyrwyr, roedd Cymru dan flanced o eira - ac eira yn Aberystwyth hyd yn oed - y diwrnod cyn i ni fynd. Ni'n dechre meddwl mai ffordd y dynion tywydd o stopio ni i fynd i lefydd yw rhoi eira yng Nghymru - ma 'na eira wedi bod yn ystod yr Eisteddfod Ryng-Gol dros y dair mlynedd ddiwethaf, ac yn ystod ein trip rygbi i Baris ddwy flynedd yn 么l. Cyd-ddigwyddiad?!

Ond, diolch byth, roedd yr eira wedi clirio erbyn i ni adael am 8 bore Gwener, a'r hewlydd yn ddigon clir i ni deithio arnyn nhw. Mae'n debyg i ni adael ar yr amser cywir, achos yn sydyn iawn ar 么l i ni adael dyma'r eira yn cwympo'n drwch yn Aber!

Ar 么l deg awr ar y bws, dyma gyrraedd Caeredin, a darganfod bod ein hostel ni yn union gyferbyn 芒 thafarn y 'Three Sisters' lle roedden ni wedi clywed o flaen llaw ei fod yn lle da i fynd i wylio'r g锚m. Dechrau da!

Profiad anhygoel
Mae Caeredin yn ddinas hyfryd, ac roedd cerdded trwy'r canol at Stadiwm Murreyfield ar y dydd Sadwrn gyda miloedd o gefnogwyr eraill o Gymru ac o'r Alban, yn brofiad anhygoel. Yr hyn oedd yn wych oedd bod y rhan fwyaf o'r cefnogwyr yn gwisgo baner Cymru ac un yr Alban, doedd dim drwg deimlad rhwng y ddwy wlad. Mae Murreyfield yn stadiwm hyfryd ac roedd yr awyrgylch ar ddechrau'r g锚m yn drydanol, a'r 20,000 o Gymry oedd yno yn canu'r anthem gydag arddeliad - yn enwedig gan ein bod ni'n chwarae i ffwrdd. Ond am g锚m ofnadwy! Erbyn y diwedd roedden ni'r Cymry wedi diflasu yn llwyr a dechreuodd nifer fawr o bobl adael y stadiwm. Doedd cerdded yn 么l ar 么l y g锚m ddim yn brofiad mor bleserus...

Er gwaetha'r canlyniad trychinebus, roedd y ddinas yn fwrlwm o gefnogwyr Cymru a'r Alban a ardal Grass Market yn llawn dop. Mae cwpwl o ffrindiau ysgol gen i yn y Brifysgol yng Nghaeredin ac aeth pump ohonyn ni gyda nhw i ceilidh sydd yn debyg i dwmpath dawns yn Undeb y Brifysgol. Roedd band byw yn chwarae, ac er yn debyg i dwmpath roedd y dawnsio yn llawer mwy egn茂ol a lot mwy o droelli gwyllt! Yna er mwyn cario ymlaen gyda'r dawnsio dyma mynd i glwb nos cyfagos a dyna lle mae'r cof yn dechrau pylu...

Treuliom ddydd Sul yn cerdded y ddinas ar 么l cael brecwast mawr yna gwylio g锚m Ffrainc yn erbyn Iwerddon oedd yn llawer mwy diddorol 'na g锚m dydd Sadwrn! Noson (weddol) gynnar nos Sul yna dechrau yn 么l tuag at Gymru fach am saith bore Llun, a phawb yn llwyddo i ddal y bws - hwre! (Gadawom un aelod colledig ar 么l ym Mharis ddwy flynedd yn 么l... anffodus.) Penwythnos wych, lot o hwyl a sbri er gwaethaf y rygbi. Awe i Ddulyn flwyddyn nesa'!

Lowri Johnston

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy