"Caeredin oedd pen y daith eleni, a bore dydd Gwener, y 9fed o Chwefror, roedd injans y bysiau yn prysur boethi yn barod i gludo cant a hanner o ffyliaid Bangor i fyny am yr Alban.
Roedd hi'n daith hir a diflas, ond gyda chymorth ambell i gan o Fosters a ch芒n gan fechgyn soniarus yr ail flwyddyn, trodd saith awr yn gyffro pur.
Ond mae'n si诺r mai'r ffrae rhyngom ni'r blaenoriaid a'r tom-tom yw fy atgof gorau am y daith gyfan, a hynny wrth i'r hyllbeth electronig golli signal yng nghanol dinas Caeredin a gorfodi i mi, fel rhyw Anneka Rice meddw, i fynd allan i ofyn am gyfarwyddiadau!
Doeddwn erioed wedi meddwl y byddai gwneud three point turn mewn bws yn gymaint o sbri! Ond, ar 么l hanner awr o ddadlau, fe ddeffrodd yr hen dom-tom a'n arwain at yr hostel.
Cawsom noson a hanner ar Rose Street nos Wener yn cyfarfod 芒 hen wynebau dros beint neu ddau. Rhyfedd sut mae pobl yn tyrru i wlad arall i dreulio amser 芒 ffrindiau eu milltir sgw芒r!
Fe ddaeth bore Sadwrn yn llawer rhy gloi, ac ar 么l llowcio pecyn o Pro Plus a gwisgo'n gynnes roeddem yn barod i wynebu'r hen ddinas unwaith eto.
B没m yn ffodus i brynu tocynnau cyn mynd i fyny, felly tyrrom tua'r stadiwm mewn da bryd.
Yn anffodus, roedd y ddau b芒r o sanau yr oeddwn wedi eu gwisgo yn bell o fod yn ddigon i gynhesu traed cefnogwr mewn g锚m mor ddigyfeiriad a di-fflach.
Gyda chaniad y chwiban olaf, daeth gw锚n fwya'r g锚m i gefnogwyr Cymru a diflannom o'r stadiwm cyn yr embaras o orfod wynebu'r ciltiau balch.
Roedd y daith hir yn 么l i'r dre yn siawns i deimlo bysau ein traed unwaith yn rhagor a pharatoi ar gyfer y noson o'n blaenau, a chwythodd y sg么r terfynol o'n cof gyda'r awel fain.
Roedd y si ar led ar hyd y stryd fawr fod y Cymry yn tyrru i Grass Market felly mentrom gyda'r lli. Roedd y lle yn llawn o grysau du'r gym-gym a chrysau coch Cymru, a'r unig beth oedd i'n hatgoffa nad yn Walkabout ein prifddinas ein hunain yr oeddem oedd glesni crysau'r Gl么b ac ambell i Albanwr dewr a fentrodd allan mewn cilt.
Llwyddodd dau ohonom i wrthsefyll y dynfa i aros gyda'r Cymry meddw, dim ond i ymuno 芒 chriw o Gymry meddwach, a hynny yn y gig a drefnwyd ar ein cyfer.
Yn anffodus, roedd Daniel Lloyd wedi gorffen erbyn i ni gyrraedd, ond megis dechrau oedd Frizbee, felly yno y b没m am weddill y noson yn neidio fel ffyliaid i'w halawon bachog a'u curiadau cyson.
Wrth ddeffro bore Sul, fyddem wedi rhoi unrhyw beth i gael gwasgu botwm i'm tywys yn 么l i Fangor mewn fflach. Ond, gan nad yw'r fath beiriant yn bodoli eto yn anffodus, bu'n rhaid i ni oddef 芒 llais diflas tom-tom am bron i wyth awr cyn dynesu at olau croesawgar Bangor Ucha'.
Yn bendant, bu'n benwythnos i'w gofio, ond saif y cwestiwn ... pam ein bod yn mynnu tyrru i ran arall o Brydain yn flynyddol er mwyn treulio mwy amser yn teithio ac yn cysgu nac yn blasu danteithion pen y daith?"
Lowri Evans, Prifysgol Cymru, Bangor
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.