Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf mewn Pabell ar gae'r Ysgol Gyfun yn 1967 o ganlyniad i rodd ariannol a gynigwyd gan Syr D J James, Pantyfedwen, 225, Stryd Oxford Llundain er mwyn sefydlu G诺yl yn Llanbedr Pont Steffan yn enw ei frawd Rhys Thomas James. Bu'n rhaid ffarwelio 芒'r babell yn 1979 oherwydd problemau ariannol a chynnal yr 糯yl yn neuadd yr Ysgol Gyfun.
Yn yr Eisteddfod gyntaf gwelwyd geni 'Pantyfedwen', un o emynau mawr ein cenedl - y geiriau wedi eu cyfansoddi gan Rhys Nicholas. Y flwyddyn ganlynol daeth y d么n i'r brig o waith Eddie Evans. Diddorol yw nodi nad Pantyfedwen oedd dewis cyntaf y beirniaid, ond t么n arall na fyddai'n bosib i unrhyw gynulleidfa ei chanu hen ymarfer cyson. Felly gofynnwyd iddynt ail ddewis a dyma 'Pantyfedwen' yn dod i'r brig. Mae Pantyfedwen yn boblogaidd iawn mewn eisteddfodau, cymanfaoedd, cyngherddau ac yn y blaen ar hyd a lled y byd ac yn gynharach yn 2007 fe'i dyfarnwyd yn Emyn y Flwyddyn.
Ar hyd y blynyddoedd mae'r Eisteddfod wedi denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ac mae'n dal i wneud hynny. Mae nifer helaeth o'r enillwyr erbyn hyn yn enwau cenedlaethol a rhai ohonynt yn rhyngwladol. Dyma rai ohonynt - Bryn Terfel, Gwyn Hughes Jones, Sh芒n Cothi, Delyth Medi, Eirian a Buddug James, Dennis a Patricia O'Neill, Simon Fisher, Dai Jones, Dafydd Edwards, Elsie, Delyth Mai a Gary Nicholas, Peggy Williams, Leah Owen a Rosalind Lloyd.
Mae'r Eisteddfod wedi datblygu ac arbrofi yn ystod ei bodolaeth. Yn 1976 arbrofwyd gydag Adran newydd gyfyngedig i blant oedd yn byw yn nhalgylch yr Ysgol Gyfun. Mae'r Adran yn parhau i fynd a'r cystadlu yn niferus ac o safon uchel iawn. Prawf o hyn yn flynyddol yw gweld nifer o'r plant a'r bobl ifanc lleol yn dod i'r brig yn y cystadlaethau agored ac yn llwyddiannus hefyd mewn Eisteddfodau bach a mawr ar hyd a lled y wlad.
Hefyd yn y saithdegau sefydlwyd Adran Gelff a Chrefft ac mae'r arddangosfa yn flynyddol yn werth ei gweld.
Janet Evans 'Na'r 'steddfod ore to'! (gan Eryl Jones)
Safon eithriadol yn Eisteddfod y dathlu
|