'Na'r Steddfod ore 'to!
Yn y flwyddyn 1993 cynigwyd ysgoloriaeth o 拢1,000 ynghyd 芒 Rhuban Glas mewn cystadleuaeth newydd 'Llais Llwyfan Llambed' yn agored i gantorion ifanc dan 30 oed a'r gwobrau yn 拢1,000, 拢500, 拢300, 拢200 a 拢100.
Mae'r gystadleuaeth a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau yn y brifysgol yn dal i fodoli ac yn parhau i ddenu cantorion ifanc o bob cwr o'r wlad sydd yn dechrau ar eu gyrfaoedd yn y byd canu. Mae'r arian yn gymorth mawr iddynt dalu am hyfforddiant.
Enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth oedd Aled Hall ac ymhlith y buddugwyr mae Fflur Wyn a Robin Lyn Evans. Hefyd yn 1993 dechreuwyd ar yr arferiad o gynnal Oedfaon Unedig gan fynd o amgylch eglwysi'r dref yn eu tro ac mae hynny'n parhau.
Yn y flwyddyn 2000 cyflwynwyd cystadleuaeth newydd sef Tlws Ieuenctid am gyfansoddi darn o ryddiaith i rai dan 25 oed. Mae'r Babell L锚n yn dal i ffynnu ac eleni mae yna leoliad newydd yn Eglwys Sant Tomos, tu draw i faes parcio'r cwmins.
Mae'r Eisteddfod yn ddyledus iawn i'r busnesau a'r unigolion am eu cefnogaeth ariannol heb anghofio am nawdd hael cronfa Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.
Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod yn y gyfrol 'Llais Llwyfan Llanbed' gan Goronwy Evans, ysgrifennydd yr 糯yl am 35 mlynedd. Mae'r gyfrol yn olrhain hanes yr Eisteddfod trwy gyfrwng geiriau a lluniau niferus iawn ac mae hefyd yn cynnwys cynnyrch llenyddol yr 糯yl ar hyd y blynyddoedd.
Felly dewch yn llu i Lanbedr Pont Steffan i ddathlu'r Deugain ac i fwynhau gwledd o ddiwylliant Cymraeg ar ei orau.
Janet Evans