Stori Dydd Llun
Dydd Llun yn y Sioe Fawr a mae'r maes yn fwrlwm i gyd. Yr oedd hi'n fore cynnar i lawer gyda'r mynedfa yn agor am 8 o'r gloch y bore. Ar faes y sioe roedd dechrau'r cystadlu yn cylch y gawrtheg, defaid, moch ac wrth gwrs y brif cylch.
Er bod pob blwyddyn yn dod a cystadleuwyr, ymwelwyr ac arddangoswyr newydd mae'r Neuadd Fwyd ar ei newydd wedd ar ol fuddsoddiad o 拢1.6 miliwn.
Mae'r Neuadd newydd yn galluogi arddangosfeydd o gynyrch cymreig mewn awyrgylch fodern.
O hufen i芒 i gimwch mae'r Neuadd yn cynnig rhywbeth i bawb ac yn arwydd o ddiwydiant bwyd llewyrchus ledled Cymru.
Cyfrannwr Ieuengaf y Sioe Frenhinol?
I lawr ar y llyn, 'roedd Mabli, baban naw mis oed yn cymryd rhan mewn arddangosfa o ganwio gyda Clwb y "Gwendraeth Valley Paddlers". Dywedodd Sioned McCue, aelod o'r clwb ei fod "hi'n bwysig iawn creu diddordeb yn canwio gan ddechrau gyda babanod hyd yn oed!"
Roedd teimlad y digwyddiad yn pwysleisio'r apel traws-cynhedlaethol chwaraeon dwr, sydd wrth gwrs o fudd i'r economi yng Nghymru ond sydd hefyd yn rinwedd nodweddiadol o'r Sioe Fawr yn gyffredinol.
Coedennn!
Un elfen gymharol sefydlog yma yn y Sioe yw'r ardal Coedwigaeth sydd yn cynnwys amrywiaeth o nwyddau pren, cwmnioedd ceidwadwriaeth ac wrth gwrs yr adran chwaraeon coed.
Un aelod o'r draddodiad o torri pren yn erbyn y cloc yw Simon Belfield o Lanelwy cyfarwyddwr t卯m 'Woodfest' sydd wedi ei leoli yn y dre.
Er bod ei wreiddiau yn gadarn yng Ngogledd Cymru yr oedd Simon yn awyddus i godi cydnybyddiaeth o natur rhynwladol chwaraeon pren gan nodi bod timau o ar draws y byd yn cystydlu yn y Sioe eleni.
Wrth i'r ddiwrnod cynta dod i ben y teimlad ar faes y sioe oedd bod dyfodol y sioe yn sg卯l amrwyiaeth oedrannau y cystadleuwyr heddi yn fwy llachar na hyd yn oed yr heulwen.
|