Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Nid awdl ar fesurau traddodiadol oedd hon, ond
cerdd ar fesur y tri-thrawiad. Bu Cynan yn ffodus na chafodd ei 'awdl' ei
diarddel o'r gystadleuaeth. John Morris-Jones a achubodd y dydd drwy nodi
fod mesur y tri-thrawiad yn perthyn i ddosbarth Morgannwg o fesurau, sef y
dosbarth a ddyfeisiodd Iolo Morganwg ei hun. Yn y gerdd hon, a oedd fel chwa
o awyr iach ar y pryd oherwydd absenoldeb yr eirfa draddodiadol awdlaidd
ynddi, y mae Cynan yn dechrau ailddarganfod ei ffydd.
Y Goron
Testun. Pryddest, ar un o'r testunau canlynol: ' Atgof', 'Dafydd ap
Gwilym', 'Marchog yr Awyr'
Enillydd: E. Prosser Rhys ('Atgof')
Beirniaid: W. J. Gruffydd, Crwys, Gwili
Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar
y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun. Yr oedd yn ail
gan ddau o'r beirniaid, ond 'roedd W. J. Gruffydd yn llawdrwm iawn ar ei gerdd.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cododd storm o brotest yn sg卯l coroni
Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest,
gan gynnwys gwrywgydiaeth. 'Roedd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen
safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill ar 么l y Rhyfel Mawr, megis yng
ngweithiau James Joyce. Aldous Huxley a D. H. Lawrence. Enghraifft o'r
ymateb anffafriol i'r gerdd yng Nghymru oedd erthygl a ysgrifenwyd gan y Parch. W. A. Lewis yn Y
Brython: 'Nid rhyw sydd oruchaf, ac nid yw dyn yn gymaint caethwas iddi ag
y myn y bardd hwn i ni gredu. Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a
eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks
hynny, y mae'n wrthrych tosturi. Hen dro go s芒l oedd peri i aer Coron
Prydain, yn ei anwybodaeth, goroni hen gerdd anfelys fel hon.' Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|