1914-1937 Y Gaer Fechan
Olaf
Erbyn 1914 'roedd technoleg y ffilm wedi datblygu, ac 'roedd yn barod i
gofnodi rhith a realaeth, ffantasi a ffaith. 'Roedd yn barod i gofnodi
digwyddiadau hanesyddol yr ugeinfed ganrif. 'Roedd ffilm wedi rhoi rhyfel y
Boeriaid ar gof a chadw ond 'roedd ar fin creu cofnod parhaol o un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif.
Ym mis Medi 1914 aeth Franz Ferdinand, nai Ymerawdawr Awstria a Brenin
Hwngari, i Sarajevo, prifddinas Bosnia. Saethwyd Franz Ferdinand gan
genedlaetholwr ifanc. Lladdodd yr un fwled honno dros ddeng miliwn o bobl.
'Roedd blynyddoedd o genedlaetholdeb, imperialaeth a militariaeth yn Ewrop
ar fin ffrwydro'n rhyfel. Mudiad cudd o Serbia oedd y tu 么l i'r weithred o
ladd Fraz Ferdinand ac ymhen mis wedi'r llofruddiaeth aeth Serbia ac Awstria-Hwngari i ryfel
ar 28 Gorffennaf 1914.
ymlaen...
|
|
|