Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar 么l
mynych gystadlu. Canmolwyd yr awdl yn ormodol gan J. J. Williams a J. T.
Job, a hynny oherwydd eu bod yn ymwybodol o'r diffyg teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1927 a 1928, ac ar 么l i W. J.
Gruffydd ddatgan yn Y Llenor fod oes yr awdl ar ben. Ceir rhai darnau telynegol
derbyniol yn awdl Dewi Emrys, ond mae'r eirfa awdlaidd a mynegiant afrwydd yn ei
handwyo, ac mae diffyg unoliaeth yn yr awdl yn ogystal.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Y G芒n ni Chanwyd'
Enillydd: Caradog Prichard
Beirniaid: Wil Ifan, W. J. Gruffydd, Gwili
Cerddi eraill: Pryddest gan Dewi Emrys a ffafriai Wil Ifan.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dyma'r unig dro yn yr ugeinfed ganrif i'r un
bardd ennill y Goron am y trydydd tro yn olynol. Cerdd gymhleth yw'r gerdd
fuddugol, ac ynddi mae Caradog Prichard yn synio am Dduw fel Matriarch, fel
Mam ofidus a gwallgof y cread, wrth iddo 'Weld y Goruchaf ar lun/ Gwallgofrwydd arglwyddes hardd'. Yng ngherddi eisteddfodol
coronog Caradog Prichard mae'r ddynoliaeth yn ysglyfaeth i ryw bwerau tywyll,
gwallgof. Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|