大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Abergwaun

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn llosgi defnyddiau ac adeiladau'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Rheithgor Caernarfon yn methu cytuno ar ddedfryd ond rheithgor yr Old Bailey yn eu cael yn euog ac yn eu dedfrydu i naw mis o garchar.
  • Si么r V yn marw, Edward VIII yn frenin ac yn dod i Ddowlais i weld y miloedd di-waith ac yn dweud 'something must be done'. Cyn diwedd y flwyddyn 'roedd Edward VIII wedi ymddiswyddo oherwydd ei berthynas 芒 Wallis Simpson. Ei frawd Si么r VI yn ei olynu.
  • Rhyfel Cartref Sbaen yn cychwyn a Hitler a Mussolini yn cefnogi'r ffasgydd Franco.
  • Ffasgwyr yn lladd y bardd a'r dramodydd Federico Garc铆a Lorca yn Sbaen.
  • Hitler yn agor gemau Olympaidd Berlin.
  • Hitler yn agor ffatri Volkswagen.
  • 200 o ddynion di-waith yn cychwyn ar eu gorymdaith o Jarrow i Lundain.
  • Y 大象传媒 yn darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.
  • Brwydr Cable Street yn Llundain pan fu i 100,000 o bobl wrthwynebu gorymdaith gan 7000 o gefnogwyr y ffasgydd Oswald Mosley.
  • 14.6% o blant Y Rhondda'n dioddef o ddiffyg maeth.
  • Y bedwaredd, a'r olaf, o'r gorymdeithiau newyn o Dde Cymru yn cychwyn i Lundain.
  • Cau gwaith dur Dowlais.
  • Saith yn boddi yng nglofa Lovston, Hwlffordd.
  • Kipling yn marw.

Archdderwydd               J. J. Williams

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Ty Ddewi'
Enillydd: S. B. Jones
Beirniaid: G. J. Williams, J. Lloyd Jones, Gwenallt
Cerddi eraill: Waldo Williams oedd yr ail am y Gadair, ac fe'i ceryddwyd am ei frys a'i flerwch. Waldo oedd bardd mwyaf y gystadleuaeth yn 么l y beirniaid. Yr oedd D. J. Davies, Prifardd y Gadair ym 1932, hefyd wedi cystadlu.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl fedrus iawn yw'r awdl fuddugol, a cheir ynddi sawl darn cofiadwy a nifer o linellau epigramatig gwych.

Y Goron

Testun. Pryddest, ' Yr Anialwch'
Enillydd: David Jones
Beirniaid: T. Eirug Davies, E. Prosser Rhys, Caradog Prichard

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth gl枚wr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch. Pryddest anarbennig.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy