|
|
Lleoliad yr Eisteddfod
Hen Golwyn Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod ym Mae Colwyn, ond bu'n rhaid ei
symud i Hen Golwyn. Eisteddfod lenyddol yn unig oedd hon.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur, yn galw am 100,000 o ferched i ddod i
weithio mewn ffatr卯oedd.
- 50 o awyrennau'r Luftwaffe yn ymosod ar Lundain ac yn
lladd 1,400.
- Abertawe'n fflam am dair noswaith yn Chwefror, 230 yn cael eu lladd, a
dinistriwyd canol y dref. Fis ynghynt lladdwyd 165 pan fomiwyd Caerdydd.
- Lladdwyd nifer o bobl ar draws Cymru, yn
Rhosllannerchrugog a Phencae, Clwyd, Pontrhydyfen, Port Talbot, Y Rhondda a
Chasnewydd.
- Rudolf Hess, dirprwy Hitler, yn glanio yn Yr Alban.
- Hitler yn torri ei addewid ac yn ymosod ar Rwsia.
- Siapan yn ymosod ar Pearl Harbour gan dynnu'r
Unol Daleithiau i mewn i'r Rhyfel.
- Ailenwi Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru, a
sefydlwyd ym 1939, yn Undeb Cymru Fydd. Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn
faes tanio.
- Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Rhyfel daeth o leiaf
200,000 o ymfudwyr i Gymru. 'Roedd dylanwad yr holl blant o Saeson yn poeni pobl fel W. J.
Gruffydd, a ddywedodd fod dylanwad y Rhyfel hwn ar ddyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn
anhraethol fwy na dylanwad y Rhyfel Mawr.
- Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng
Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.
- Er diogelwch, y 大象传媒 yn symud eu hadran
adloniant o Lundain i Fangor. Un o'r rhaglenni a g芒i ei darlledu o Fangor oedd ITMA gyda Tommy
Handley.
- Dod 芒 thollau i ben ar Bont Menai.
- Marw James Joyce a Virginia Wolf.
- Cyllideb Teulu o ^wr, gwraig a thri o blant am
wythnos yn y cyfnod hwn:
Rhent.........................10/6 (52c)
Glo..............................4/4 (22c)
Nwy a Thrydan............3/6 (17c)
Yswiriant....................4/8 (23c)
Clwb Dillad...................3/- (15c)
Bwyd..........................拢1-10 -0 (拢1.50)
Manion........................3/- (15c)
Costau'r G^wr............ 3/-(15c)
颁驰贵础狈厂奥惭................拢3-0-0
Archdderwydd
Crwys
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Hydref'
Enillydd: Rolant o F么n
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, J. Lloyd Jones, Edgar Phillips |
|
|
|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:
Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd.
Condemniwyd y mynegiant astrus a thywyll gan y beirniaid, er nad yw mor astrus 芒
hynny; ond yr oedd yn awdl anghelfydd a chymysglyd ar brydiau, ac nid rhyfedd i'r
bardd ei hailwampio yn ddiweddarach. Ni fynnai T. H. Parry-Williams gadeirio
Rolant na neb arall.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Breuddwyd Macsen' neu 'Periannau'
Enillydd: J.M. Edwards ('Peiriannau')
Beirniaid: T. Eirug Davies, Edgar Thomas, Saunders Lewis Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio
technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi. Gallai dyn un
ai reoli'r peiriannau neu adael i'r peiriannau ei reoli ef. Y mae rhywfaint o ddylanwad
Gwenallt ar y gerdd, ac mae'n gerdd yn yr un cywair 芒 rhai o gerddi beirdd fel W. H.
Auden, Stephen Spender, C. Day Lewis a Louis MacNeice. Defnyddiodd y bardd y
gynghanedd i gyfleu rhuthr a grym y peiriannau yn effeithiol. Dyma un o gerddi
mwyaf poblogaidd cystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y Fedal Ryddiaith Testun: Nofel fer
Enillydd: Gwilym R. Jones ( Y Purdan )
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: D. W. Morgan
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|
|