|
|
Lleoliad yr Eisteddfod
Y Bala
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi peth cydraddoldeb i'r iaith drwy ganiat芒u fersiynau Cymraeg o ffurflenni swyddogol a chaniat芒u defnydd o'r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol.
- Protestio mawr yn erbyn y rhyfel yn Fietnam. 200,000 mewn protest yn Efrog Newydd a San Francisco.
- Jeremy Thorpe yn olynu Jo Grimond fel arweinydd y Rhyddfrydwyr.
- Muhammed Ali yn gwrthod ymuno 芒'r fyddin.
- De Gaulle yn parhau i wrthwynebu cais Prydain i ymuno 芒'r Farchnad Gyffredin.
- 大象传媒 2 yn cychwyn gwasanaeth lliw.
- 大象传媒 yn cychwyn gwasanaethau radio 1,2,3,4, yn lle'r Home Service, Light Programme a'r Third Programme.
- ITV yn cychwyn News at Ten.
- Mesur Erthylu yn dod yn gyfraith.
- Dibrisio'r bunt a Wilson yn traddodi ei araith 'pound in your pocket'.
- 134,000 o anifeiliaid yn gorfod cael eu difa oherwydd y clwyf traed a genau.
- Cenedlaetholwyr Albanaidd, yr SDP, yn ennill eu sedd seneddol gyntaf ers 1945 pan enillodd Winifred Ewing is-etholiad Hamilton.
- Y claf cyntaf, Louis Washkansky, yn derbyn calon newydd mewn triniaeth gan y meddyg o De Affrica, Dr Christian Barnard.
- Sefydlu Merched y Wawr.
- Y swyddfa gofrestru tir a'r swyddfa drwydded deithio yn symud i Gymru fel rhan o bolisi'r Llywodraeth i ddatganoli swyddfeydd gweinyddol.
- Is-etholiad Gorllewin Y Rhondda a Phlaid Cymru yn dod o fewn 2,306 i'r Blaid Lafur.
- Ffurfio Cyngor y Celfyddydau yn lle y Pwyllgor Cymreig o Gyngor Celfyddydau Prydain.
- Enwi'r Drenewydd ym Mhowys yn ail o'r trefi newydd yng Nghymru.
- Prifysgol Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymru (UWIST) yn dod yn chweched rhan o Brifysgol Cymru.
- Agor twnel Brynglas ar yr M4 ger Casnewydd, y twnel traffordd cyntaf ym Mhrydain.
- Siegfried Sassoon, Konrad Adenauer, Che Guevara, Clement Attlee, John Masefield, Dorothy Parker, Spencer Tracy, Vivien Leigh a Jayne Mansfield yn marw.
Archdderwydd
Gwyndaf
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Y Gwyddonydd'
Enillydd: Emrys Roberts
Beirniaid: T. Llew Jones, Gwilym R. Jones, Waldo Williams
Cerddi eraill: Donald Evans, James Nicholas |
|
|
|
Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Mae'n dathlu campau'r gwyddonwyr ymhob maes, hyd yn oed yr ymdrech gyntaf i greu bywyd dynol mewn testiwb. Awdl ddieithr i awen Cymru. Y Goron
Testun. Pryddest: 'Corlannau'
Enillydd: Eluned Phillips
Beirniaid: John Gwilym Jones, Alun Llywelyn-Williams, G. J. Roberts
Cerddi eraill: Y tair pryddest orau yn y gystadleuaeth oedd dwy bryddest Eluned Phillips a phryddest vers libre cynganeddol gan Mathonwy Hughes. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Pwnc y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tseineaid. Pryddest esoterig ei chyfeiriadaeth nad oedd yn deilwng o'r Goron yn 么l John Gwilym Jones. Y Fedal Ryddiaith
Cyfrol o ryddiaith wreiddiol
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Ddrama
Drama a gymer tuag awr a chwarter i'w pherfformio
Enillydd: Bob Roberts
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|
|