Y Goron
Testun: Cerdd hir neu ddilyniant o gerddi yn portreadu llencyndod
Enillydd: Si么n Eirian
Beirniaid: Dafydd Rowlands, Gwyn Thomas, Alun Llywelyn-Williams
Cerddi eraill: Y tri gorau oedd Si么n Eirian, Donald Evans a Gwynn ap Gwilym, a barnwyd fod y tri yn deilwng o'r Goron. I Donald Evans y dymunai Dafydd Rowlands roi'r Goron. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn. 'Roedd Rhyfel Fietnam wedi dod i ben, ac 'roedd hawliau sifil y duon yn America wedi gwella. Edrychodd Si么n Eirian yn 么l yn hiraethus ar gyfnod y mudiad protest yn ei gerdd 'Ymgais i Weithredu', er enghraifft. 'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau. Dilyniant cyffrous a ffres. Y Fedal Ryddiaith
Cyfrol ar ffurf darn o hunangofiant: Trobwynt neu Argyfwng
Enillydd: Harri Williams (Trobwynt)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|