Yr Wyddgrug
Llwybr cerdded o gwmpas llefydd o bwys yng ngwaith a bywyd y nofelydd Daniel Owen ac adeiladau hanesyddol eraill tref Yr Wyddgrug.
Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar y gwastad yng nghanol tref Yr Wyddgrug. Mewn achosion lle mae'r daith yn gadael y prif strydoedd mae yna opsiwn A (hawdd) a B (ychydig yn hirach.) Mae sawl maes parcio yn y dref (e.e. Love Lane, Heol y Brenin a Stryd Newydd. (Prisiau'n cychwyn o 20c) Mae cyfleusterau cyhoeddus ym maes parcio Stryd Newydd ger Capel Bethesda.
Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.
-
1. Cerflun Daniel Owen
Wedi ei wneud o efydd gan W. Goscombe John
-
2. Arddangosfa Daniel Owen
Yma mae ffenestr liw arbennig ac arddangosfa am fywyd a gwaith y nofelydd
-
3. Canolfan Gymunedol Daniel Owen
Yma gwelwch lun trawiadol o waith yr arlunydd P J Crook
-
4. Capel Bethesda
Dyma'r capel y mynychai Daniel Owen
-
5. Y Pentan
Lleoliad siop teiliwr Daniel Owen
-
6. Hen Lys Barn
Yma cynhaliwyd achos llys Terfysg yr Wyddgrug yn 1869
-
7. Bedd Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)
Mae ei fedd ym mynwent y dref
-
8. Eglwys Santes Fair
Yma mae beddgist yr artist Richard Wilson a phinaclau wedi eu cerfio o wynebau Oliver Cromwell a David Lloyd George
-
9. Man geni Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)
Carreg goffa yn nodi lleoliad y t欧 lle'i ganwyd a'r t欧 a adeiladodd yn hwyrach yn ei fywyd
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd 芒'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.