'Snad 'ych chi eisie codi ar eich traed a head-bango i 'Rhedeg i Baris' 'sdim gobaith i chi!'
Dyma un o'r bandiau mwya dylanwadol yn hanes Cerddoriaeth fodern Cymreig. Yn weithredol rhwng 1980-1994, roedd Yr Anrhefn yn fand pync gyda Rhys Mwyn, Hefin Huws a Dewi Gwyn yn aelodau gwreiddiol. Fe wnaeth Huws a Gwyn adael y band yn yr 1980gau diweddar gyda Dylan Hughes, ( Y Cyrff ) a Sion Jones, (Maffia Mr Huws) yn ymuno yn eu lle.
Yn 1983, lansiodd y band label recordio annibynnol, 'Recordiau Anrhefn' gan ryddhau nifer o recordiau cynnar gan Y Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog, Fflaps a Tynal Tywyll. Diolch i'r label, enillodd fandiau Cymreig adnabyddiaeth a chlod tu hwnt i Glawdd Offa. Recordiodd y band dair sesiwn i'r gohebydd cerdd enwog, John Peel ac yn eu hanterth roeddent yn perfformio hyd at 300 o gigs y flwyddyn ledled Ewrop. Yr Anrhefn hefyd oedd un o'r bandiau cyntaf i berfformio yn Nwyrain Berlin. Ymddangosodd y band ar raglen gerdd Channel 4, 'The Tube' yn 1987, er i'r cylchgronau Cerddoriaeth Prydeinig anwybyddu llwyddiant Yr Anrhefn ar y cyfan.
Rhyddhaodd y band sawl albym yn cynnwys, 'Defaid, Skateboards a Wellies' (1987), Workers Playtime; 'Bwrw Cwrw' (1989), Workers Playtime ac yn 1995, Hen Wlad fy Mamau - Land of My Mothers (1995), Crai.
Ar ei orau roedd y band yn llawn asbri, ffyrnigedd ac egni -gyda chaneuon grymus a gafaelgar fel 'Rhedeg i Baris' yn gadael stamp ar genhedlaeth gyfan. Yn dwyn atgofion o'r 'Clash' a bandiau pync cyffelyb, gwnaeth Yr Anrhefn lawer i roi hygrededd i fandiau Cymraeg y cyfnod a thu hwnt.
Yn 2000 ffurfiodd Rhys Mwyn a Sebon fand newydd, 'Mangre'. Aeth Mwyn yn ei flaen i reoli label Crai a gweithio fel asiant gyda'r ddawn amlwg o ddarganfod talent newydd. Rheolodd Catatonia yn y Nawdegau cynnar ac yn 1998 ymunodd y bandiau 'Anweledig'a 'Topper' gyda label Crai ac yn fwy diweddar, yr artist Jeb Loy Nichols, wnaeth arwain at atgyfodiad Recordiau Anrhefn yn 2007.
Yn 2002 enillodd Rhys Mwyn Wobr RAP 大象传媒 Radio Cymru am gyfraniad arbennig i'r byd cerddoriaeth Gymreig. Yn 2007 atgyfodwyd Yr Anrhefn ond y tro hwn heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu.
Newyddion
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Sesiynau
Yr Anhrefn
Mehefin 19, 2007
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
大象传媒 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.