Aelodau
- Mark Roberts - Gitar/Llais
- Cerys Matthews - Llais
- Paul Jones - Bas
- Owen Powell - Gitar
- Aled Richards - Drymiau
- Dafydd Ieuan - Drymiau
- Clancy Pegg - Allweddellau
N么l ym 1992, yn 么l Mark Roberts, prif ganwr y grwp roc Y Cyrff, "o'n i'n sick o glywed llais fi fy hyn ar jiwcbocsys ac isio gweithio efo rhywun a oedd yn medru canu".
Wrth ddewis dechrau ysgrifennu caneuon gyda chantores ifanc o'r Mymbls - Cerys Matthews - yn syth ar 么l i'r Cyrff chwalu, darganfyddodd Marc lais a fyddai ymhen llai na phum mlynedd yn un o leisiau mwya eiconig Cymru wrth i'r grwp a ffurfiwyd gan y ddau, Catatonia, gyrraedd enwogrwydd byd eang, profi llwyddiant masnachol ysgubol a gweld eu cynnyrch yn cyrraedd brig y siartiau yn Mhrydain.
Sicrhawyd cytundeb recordiau mawr gyda chwmni recordiau Warners yn dilyn EPs cynnar y grwp i recordiau Crai - For Tinkerbell (1993) a Hooked (1994), ond ni ddaeth llwyddiant ar unwaith. Roedd y pwysau o fod gyda chwmni mawr yn golygu gwaith diddiwedd i'r gr诺p, yn recordio, teithio a hyrwyddo am dros ddwy flynedd.
Ond daeth llwyddiant gyda'u hail albym, International Velvet (1998) - a enillodd record y flwyddyn yn y Melody Maker - a'r senglau Mulder and Scully a Road Rage a gyrhaeddodd y deg uchaf.
Parhaodd llwyddiant y gr诺p gyda'r albym Equally Cursed and Blessed (2000) yn dilyn International Velvet i frig y siartiau, a Cerys erbyn hyn yn un o brif bersonoliaethau pop y cyfnod: brenhines 'C诺l Cymru', yr un mor enwog am ei hagwedd ffres, dim nonsens, ag am ei llais eiconig a'i gallu i gyfansoddi caneuon pop sy'n dal y zeitgeist.
Ond roedd y llwyddiant, enwogrwydd a'r straen o deithio a chwarae drwy'r amser, yn rhoi pwysau ar ddyfodol y gr诺p, ac yn fuan ar 么l rhyddhau eu pumed albym Paper Scissor Stone yn 2001 penderfynodd y grwp i chwalu.
Ers ddyddiau Catatonia mae Cerys wedi sefydlu ei hunan fel artist unigol, tra fod Mark a Paul wedi recordio a pherfformio gyda'i gilydd yn y grwp Y Ffyrc.
Emyr Williams
Newyddion
Sesiynau Newydd!
Chwefror 22, 2006
Talu Teyrnged i Tich
Mehefin 21, 2005
Oes gen ti dalent?
Mawrth 30ain, 2005
Erthyglau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r 大象传媒
Cysylltiadau Rhyngrwyd
大象传媒 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.