大象传媒

叠谤芒苍

叠谤芒苍

Prog, pop a gwerin gan y rocyrs o'r 1970au

Aelodau

  • John Gwyn: Llais, gitar
  • Nest Howells: Llais, allweddellau
  • Gwyndaf Roberts: Bas
  • Keith Snelgrove: Drymiau
  • Dafydd Roberts: Drymiau, ffliwt, telyn geltaidd
  • Paul Westwell: Drymiau
  • Dafydd Pierce: Gitar
  • Louis Thomas: Bas, llais
  • Len Jones: Gitar
  • Brian Griffiths: Drymiau

Daeth 叠谤芒苍 i fodolaeth un noson ym 1974, yn dilyn gig Yr Atgyfodiad yn Theatr Fawr, Prifysgol Abertawe. Yr aelodau gwreiddiol oedd John Gwyn, gitar a llais, Gwyndaf Roberts, bas, a'r diweddar Keith Snelgrove ar y drymiau. Aeth y band ati i recordio'i sengl gyntaf Tocyn yn stiwdio TW yn Llundain, a chyhoeddwyd y record ar label newydd Gwawr.

Gan nad oedd John Gwyn yn meddwl ei fod e'n gallu canu gofynnwyd i Nest Howells o Gaerwen ymuno 芒'r grwp. Felly, erbyn recordio LP cynta'r band ym 1975, Ail Ddechra, roedd Nest wedi'i sefydlu fel prif leisydd y band ac yn ysgrifennu rhai o'r caneuon (Breuddwyd), ac roedd Keith Snelgrove wedi gadael. Yr aelod newydd ar y drymiau oedd Dafydd Roberts, brawd bach Gwyndaf, oedd hefyd yn canu'r ffliwt a'r delyn Geltaidd.

Ail Ddechra oedd yr albwm gyntaf i'w recordio yn stiwdio newydd cwmni Sain yn Llandwrog, ac enillodd 叠谤芒苍 gystadleuaeth C芒n i Gymru ym 1975 gydag un o'r caneuon oddi arni, Caledfwlch, a chyfansoddwyd gan Gwyndaf Roberts.

Erbyn yr ail LP, Hedfan, yn 1976, roedd aelodau'r band wedi newid eto. Roedd Gwyndaf a Dafydd Roberts wedi gadael, a Paul Westwell a Dafydd Pierce wedi ymuno gyda John Gwyn a Nest. Bu 叠谤芒苍 yn perfformio dipyn o gwmpas y wlad gan feithrin dilyniant selog o gefnogwyr ymhob man, felly erbyn i'r band gyhoeddi'r drydedd albwm, sef yr albwm olaf, Gwrach y Nos, roeddent yn siwr y byddai tipyn o werthiant arni. Erbyn cyhoeddi Gwrach y Nos ym 1978 roedd Paul Westwell, Dafydd Pierce a Nest Howells wedi gadael y band, gyda Louis Thomas, Len Jones a Brian Griffiths yn ymuno gyda John Gwyn.

Daeth 叠谤芒苍 i ben ym 1978 wedi cyfrannu casgliad o ganeuon gwahanol iawn i fyd roc Cymru'r saithdegau, gyda chymysgedd o ganeuon pop megis Tocyn a chaneuon dipyn mwy crefftus a dwys fel Breuddwyd, oedd yn adlewyrchu dylanwadau gwahanol - pop, roc a gwerin - yr aelodau gwahanol.

Mae pwysigrwydd y grwp yn cael ei adlewyrchu hyd at heddiw wrth i Gruff Rhys ddewis sawl un o'u caneuon ar gyfer y casgliadau Welsh Rarebeat.

Richard Rees

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

大象传媒 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.