Er yn wreiddiol o Benboyr, Gorllewin Cymru, cafodd Cate Le Bon ei thrywtho'n ferch ifanc gan hoff artistaid ei thad -cewri yr isfyd cerddorol Americanaidd-y Velvet Underground, Nico, Neil Young ac eraill.
Symudodd i Gaerdydd i ddechrau ar ei gyrfa fel cerddor lle dynnodd hi lygad Gruff Rhys Gofynnodd e iddi gefnogi'r band mewn amryw o gigs.
Yna daeth cyfle i ryddhau EP, 'Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg' ar label Peski yn 2008. Yn dilyn hyn aeth hi ar daith fyd-eang am flwyddyn gyda Gruff Rhys, y cynhyrchydd Boom Bip a'u band, 'Neon Neon.'
Gydag hyder newydd, dychwelodd i Gymru ac i fynyddoedd y Gerlan i baratoi ar gyfer eu halbwm newydd, 'Me Oh My' a ryddhawyd ar label Gruff Rhys, 'Irony Bored Records (&Tapes)' yn 2009. Yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau sy'n cael eu canu'n fyw gan Cate Le Bon, disgrifwyd eu gwaith fel a ganlyn:
"Mae ei chaneuon rhyfedd a phrydferth fel creaduriaid cuddedig y goedwig yn nythu rhwng traddodiad a thalent unigol. Psychedelia quirky, gitars garw a shantis arbennig yn cael eu tynnu at ei gilydd gyda'i llais c诺l Nico-aidd. Mae Cate Le Bon yn unigryw iawn. " (NME 8/10)
Enillodd Wobr y Gantores orau yng Ngwobrau RAP 大象传媒 Radio Cymru yn 2009 ac yn 2011.
Newyddion
C2 a Glastonbury 2007!
14 Mehefin 2007
C2 a Glastonbury 2007!
14 Mehefin 2007
Sesiynau
Cate Le Bon
9 Mawrth 2010
Traciau newydd gan Cate Le Bon, wedi recordio ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym ar C2
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
大象传媒 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.