![Trwbador](/staticarchive/b00c55eb27a7f04b385439a7ff9e014abef1e9dd.jpg)
"Os fyddai Roald Dahl wedi ysgrifennu caneuon pop, gallwn ddychmygu y byddent wedi swnio rhywbeth fel hyn..." (Listen Before You Buy).
Mae Trwbador yn fand ifanc o Gaerfyrddin sy'n cynnwys Angharad Van Rijswijk ac Owain Gwilym. Yn disgrifio'u hunain fel deuawd 'avant Pop', mae eu caneuon dwyieithog yn felodig a thylwyth-tegaidd gyda hiwmor tywyll a brathog ar brydiau, megis 'I'll Google It' a 'Red Handkerchiefs'. "All animals are friends of mine,' mae Angharad yn canu'n swynol; "Meat is murder, but it tastes so fine."
Hyd yn hyn mae'r band wedi cyhoeddi 2 EP ar ei label ei hun, Owlet Music, sef It Snowed a Lot this Year ac yn fwy diweddar, Sun in the Winter. Mae adleisiau o nifer o ddylanwadau i'w clywed yng ngherddoriaeth y band fel Gold Panda, Pentangle a Gorky's Zygotic Mynci.
Mae llais swynol Angharad yn dwyn atgofion o Alison Goldfrapp hefyd. Ond mae'r cyfuniad o'r gwerin a'r electroneg, neu 'folktronika' yn dwist newydd fydd yn sicr o ennill llwyddiant i Trwbador y tu allan i Gymru hefyd.
Sesiynau
![Trwbador](/staticarchive/0170c55aae148ed80f13a1b5704c3dae0e7aa914.jpg)
Trwbador
Sesiwn Trwbador yn arbennig i raglen C2 Huw Stephens.
Caneuon Nadolig Sesiwn C2
Caneuon Nadoligaidd 芒 recordiwyd yn arbennig i C2.
Eraill
Sesiwn Unnos 2011 - Trwbador, Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan
Lluniau, fideos a chaneuon o'r Sesiwn Unnos gyda Trwbador, Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan.
大象传媒 Wales Music
![Sian Evans](/staticarchive/40d47d278803ba4e94937f3aa8a82fe31e3930dc.jpg)
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.