Roedd y Canucks wedi mynd ar y blaen wrth i Dave Biddle a Craig Culpan groesi am gais yr un wrth ymateb i dair cic gosb James Hook i'r Cymry.
A llwyddodd Canada i ymestyn eu mantais yn gynnar wedi'r egwyl wrth i'w capten, Morgan Williams, blymio drosodd am drydydd cais.
Ond llwyddodd Cymru i ddod yn 么l gyda Sonny Parker, Alun Wyn Jones, Shane Williams (2) a Colin Charvis yn croesi i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Cafwyd dechrau hynod siomedig i'r bencampwriaeth er gwaethaf tair cic gosb gan Hook, wrth iddyn nhw fethu'n glir 芒 chanfod eu rhythm.
Ond roedd cynlluniau Canada'n amlwg wrth i'w pac cryf frwydro drosodd am gais agoriadol wedi 25 munud.
Gosodwyd sylfaen gref i'r ymosodiad o sgrym yn 22 Cymru a croesodd Cudmore wrth i amddiffyn Cymru chwalu o dan bwysau.
A 10 munud yn ddiweddarach llwyddodd Culpan i synnu Cymru wrth redeg hyd y maes i gasglu ail gais i'r Canucks.
Roedd Cymru wedi cyd chwarae'n hyfryd i greu cyfle euraidd i'w holwyr yn 22 Canada ond llwyddodd Culpan i gasglu pas hir Hook a charlamodd y canolwr drosodd.
Trosodd James Pritchard i sicrhau bod Canada ar y blaen ar yr egwyl.
Bum munud wedi'r egwyl llwyddodd y maswr, Williams, i dorri trwy amddiffyn Cymru a gosod sylfaen i'w flaenwyr frwydro am y llinell gais.
Ac wedi i Williams groesi am drydedd, roedd yn edrych yn ddu iawn ar Gymru.
Ymatebodd yr hyfforddwr, Gareth Jenkins, yn syth gan yrru Gareth Thomas a Stephen Jones i'r maes i geisio ysgogi'r Cymry.
Bu bron i Jones sgorio efo'i gyffyrddiad cyntaf a bu yn rhaid i Ganada fod yn effro i rwystro'r maswr rhag tirio'r b锚l y tu 么l i'w llinell gais.
Ond llwyddodd Cymru i sicrhau eu cais cyntaf yn y bencampwriaeth o'r sgrym wrth i Parker gasglu pas gelfydd Jones.
Ac aeth Cymru yn 么l ar y blaen wrth i Alun Wyn Jones blymio drosodd wedi i amddiffyn Canada fethu 芒 chlirio'r b锚l ar eu llinell gais.
Gyda'r Canucks yn blino, manteisiodd Shanklin gan greu dau gais mewn dau funud i Shane Williams.
Ac yna llwyddodd Stephen Jones i greu cais syml i Charvis a sicrhau bod y sg么r yn gymharol barchus ar y diwedd.
Cymru: Morgan; M Jones, Shanklin, Parker, S Williams; Hook, Peel (capt); G Jenkins, M Rees, A Jones, Gough, AW Jones, J Thomas, M Williams, Popham.
Eilyddion: T Rhys Thomas, D Jones, Owen, Charvis, Phillips, S Jones, G Thomas.
Canada: Pyke; Van der Merwe, Culpan, Spicer, Pritchard; Monro, Williams (capt); Snow, Riordan, Thiel, Tait, James, Cudmore, Biddle, Stephen.
Eilyddion: Carpenter, D Pletch, M Pletch, Burak, Yukes, Fairhurst, Smith.