Roedd tair cic gosb gan Percy Montgomery o gymharu ag un gan Jonny Wilkinson yn ddigon i roi'r Springboks, oedd wedi chwalu Lloegr yn ystod y gemau gr诺p, 9-3 ar y blaen ar yr egwyl.
Ond aeth y Saeson o fewn trwch blewyn i sgorio cais ar ddechrau'r ail hanner ond fe benderfynodd y dyfarnwr fideo fod Mark Cueto wedi cyffwrdd 芒'r ystlys cyn tirio'r b锚l.
Cafwyd cic gosb yr un gan Montgomery a Wilkinson wrth i'r Boks fynd 12-6 ar y blaen cyn i Francois Steyn ymestyn y fantais 芒 chic gosb anferth i sicrhau fod De Affrica yn efelychu eu camp o 1999.
Lloegr: Robinson; Sackey, Tait, Catt, Cueto; Wilkinson, Gomarsall, Sheridan, Regan, Vickery, Shaw, Kay, Corry, Moody, Easter.
Eilyddion: Chuter, Stevens, Dallaglio, Worsley, Richards, Flood, Hipkiss.
De Affrica: Montgomery; Pietersen, Fourie, Steyn, Habana; James, Du Preez; Du Randt, Smit, Van der Linde, B Botha, Matfield, Burger, Smith, Rossouw.
Eilyddion: B du Plessis, J du Plessis, Muller, Van Heerden, Pienaar, Pretorius, Olivier.
Dyfarnwr: Alain Rolland (Iwerddon)
|