Roedd yn eiliad hanesyddol wrth i'r Eidal a Seland Newydd redeg i'r maes yn Eden Park, Auckland ar 22 Mai, 1987.
116 o flynyddoedd ar 么l i'r Alban groesawu Lloegr i Gaeredin ar gyfer y g锚m brawf gyntaf un, roedd y byd rygbi'n cynnal Cwpan y Byd am y tro cyntaf.
Roedd y byd rygbi'n hwyr iawn yn trefnu pencampwriaeth byd.
Roedd p锚l-droed wedi cynnal Cwpan y Byd ers 1930, cafwyd Cwpan Rygbi XIII y Byd am y tro cyntaf ym 1954 ac roedd hyd yn oed y byd criced wedi cynnal Cwpan y Byd ers 1975.
Roedd rygbi wedi bod yn rhan o'r Gemau Olympaidd ym 1900, 1908, 1920 a 1924 ond roedd yr Undebau wedi gwrthod cynigion i greu Pencampwriaeth y Byd er mwyn ceisio cadw ethos amatur y gamp.
Ym 1983, cafwyd cynnig gan Undeb Rygbi Awstralia ac Undeb Rygbi Seland Newydd i gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd ac o'r herwydd, fe benderfynodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) ymchwilio i'r syniad.
Mewn cyfarfod yr IRB ym Mharis ym 1985, cefnogwyd y syniad o gynnal Cwpan y Byd yn Awstralia a Seland Newydd gan y ddwy wlad honno ynghyd 芒 Ffrainc, ond roedd gwrthwynebiad gan y pedwar Undeb o Ynysoedd Prydain.
Credir mai penderfyniad De Affrica i bleidleisio o blaid y gystadleuaeth, er na fyddai'r Springboks yn cael cystadlu oherwydd y boicot chwaraeon, arweiniodd at Loegr a Chymru'n newid eu meddyliau.
Cafodd y saith aelod o'r IRB - Seland Newydd, Awstralia, Ffrainc, Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon - eu lle yn y gystadleuaeth ond doedd dim gemau rhagbrofol ar gyfer y naw lle arall.
Yn hytrach, cafodd Ariannin, Fiji, Yr Eidal, Canada, Romania, Tonga, Japan, Zimbabwe ac America wahoddiad i gystadlu
Seland Newydd oedd y pencampwyr cyntaf wrth i'r Crysau Duon drechu Ffrainc 29-9 yn y rownd derfynol yn Eden Park.
Llwyddodd Cymru i orffen yn drydydd wrth i drosiad hwyr Paul Thorburn yn dilyn cais gan Adrain Hadley sicrhau buddugoliaeth 22-21 dros Awstralia.