Mae rygbi'r undeb wedi gorfod brwydro'n galed i gael sylw yn Awstralia - gwlad sydd wedi gwirioni 芒 ph锚l-droed Awstralaidd, rygbi XIII, criced a ph锚l-droed yn fwy na'r g锚m 15-dyn.
Ond mae'r Wallabies wedi profi eu hunain yn un o dimau gorau'r byd gan goroni'r cyfan 芒 buddugoliaethau yng Nghwpan y Byd 1991 a 1999.
Ym 1899, chwaraeodd Awstralia eu g锚m brawf cyntaf wrth i d卯m o Brydain chwarae pedair g锚m brawf - tair yn Sydney ac un yn Brisbane - ond ni welwyd yr aur a gwyrdd enwog bryd hynny.
Pan roedden nhw'n chwarae yn New South Wales, roedd y t卯m yn gwisgo crysau glas y dalaith a phan roedden nhw yn Brisbane, mar诺n talaith Queensland oedd lliw eu crysau
Llwyddodd Awstralia i ennill y prawf cyntaf 13-3 cyn i'r ymwelwyr gipio'r tri phrawf arall.
Ym 1903 ffurfiwyd y New South Wales Football League er mwyn rheoli p锚l-droed Awstralaidd a phedair blynedd yn ddiweddarach cafwyd ergyd arall i boblogrwydd rygbi'r undeb wrth i gorff y New South Wales Rugby League gael ei sefydlu.
Teithiodd y Wallabies i Ewrop ym 1908 ac, er iddyn nhw golli 9-6 yn erbyn Cymru ar Barc yr Arfau, cipiodd Awstralia fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain.
Ond ar 么l dychwelyd i Awstralia, trodd 11 aelod o'r t卯m buddugol eu cefnau ar rygbi'r undeb er mwyn elwa o arian y clybiau rygbi XIII.
Bu bron i rygbi'r undeb ddiflannu'n gyfan gwbwl yn nhalaith Queensland yn ystod y 1920au a chwaraewyd holl gemau rhyngwladol Awstralia gan d卯m y NSW Waratahs.
CWPAN Y BYD
RECORD AWSTRALIA
1987 - Pedwerydd
1991 - Pencampwyr
1995 - Wyth olaf
1999 - Pencampwyr
2003 - Ail
|
Mae holl gemau rhyngwladol y Waratahs bellach yn cael eu hystyried yn gemau prawf, gan gynnwys y fuddugoliaeth o 18-8 dros Gymru ar eu taith i Brydain yn 1927.
Cymru gafodd y gorau o'r profion rhwng y ddwy wlad yn ystod y 60au a'r 70au ond roedd hi'n amlwg bod y Wallabies yn datblygu a phenderfynodd Undeb Awstralia i fewnforio strwythur hyfforddi Cymru.
Dechreuodd y wlad fuddsoddi yn rygbi ysgolion yn ogystal 芒 phenderfynu dewis chwaraewyr o F么r y De, a chafwyd pluen yn het y Wallabies wrth iddyn nhw drechu Cymru yn Brisbane ac yn Sydney ym 1978.
Gwrthododd Undeb Rygbi Cymru dderbyn bod bwlch wedi agor rhwng safon timau hemisffer y gogledd 芒 thimau hemisffer y de, ac atgyfnerthwyd eu barn wrth i Gymru ennill 22-21 yn erbyn Awstralia a chipio'r trydydd safle yng Nghwpan y Byd 1987.
Yn ystod Cwpan y Byd 1999, llwyddodd Awstralia i drechu Cymru 9-24 yn rownd yr wyth olaf ar y ffordd i gipio'r tlws am yr eildro, ond methodd y Wallabies ag amddiffyn eu coron bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i gic adlam Johnny Wilkinson sicrhau mai Lloegr oedd y pencampwyr byd.
|