大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 17 Mawrth 2006
NZ yn curo Lloegr ym Melbourne

Roedd Seland Newydd yn fuddugol o 29-21 yn erbyn Lloegr gan gipio'r fedal aur yng nghystadleuaeth rygbi 7-pob-ochr yn y Telstra Dome ym Melbourne.

Dyma oedd y trydydd tro yn olynol i'r Crysau Duon ennill yr aur ac nid ydynt wedi colli'r un g锚m yn y gystadleuaeth ers ymddangosiad cyntaf y gamp yng Ngemau 1998.

Roedd Seland Newydd ar y blaen yn fuan yn y g锚m, ond sgoriodd Mathew Tait gais gwych i Loegr wedi tair munud.

Sgoriodd Josh Blackie a Lote Raikabula i'r crysau duon, oedd ar y blaen o 15-7 ar yr egwyl.

Croesodd Andrew Vilk am gais cynnar i Loegr yn yr ail hanner i leihau'r fantais, ond chwalwyd eu gobeithion wrth i'r deiliad groesi am ddwy gais pellach.

Sgoriodd Ben Gollings gais hwyr i'r Saeson, sicrhaodd eu medal gyntaf erioed yn y gystadleuaeth.

Fiji enillodd y fedal efydd ar 么l curo Awstralia o 24-17 gyda Neumi Nanuku yn croesi am dair cais.

Ond taflwyd cysgod dros y g锚m pan ddioddefodd Scott Fava o Awstralia anaf difrifol yn yr ail hanner.

Ar 么l colli yn erbyn Fiji yn rownd wyth olaf y brif gystadleuaeth, bu Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth y pl芒t.

Roedd Cymru yn fuddugol mewn rownd derfynol i'w chofio gan ennill o 29-28 ar 么l bod ar ei h么l hi o 14-0 ac 28-12.

Rownd Gyn Derfynol: Seland Newydd 21-19 Awstralia

Yn y rownd gyn derfynol cyntaf llwyddodd Seland Newydd i gadw eu record 100% yn nghystadleuaeth 7-pob-ochr Gemau'r Gymanwlad.

Daeth y cais agoriadol gan Tamati Ellison cyn i Lote Tuqiri ymateb i'r t卯m cartref.

Ond croesodd Cory Jane yn eiladau olaf yr hanner cyntaf i ymestyn mantais y Crysau Duon gyda Amesio Valence yn ychwanegu trydydd cais ar ddechrau'r ail hanner

Llwyddodd Joshua Gamgee i groesi o dan y pyst wedi'r eilydd gymryd cic gosb sydyn a charlamu trwy'r amddiffyn i gau'r bwlch i naw pwynt.

Ond er i Cameron Shepherd groesi ar y chwiban olaf i'r t卯m cartref, llwyddodd Seland Newydd i ddal ymlaen a sicerhau eu lle yn y rownd derfynol.

Rownd Gyn Derfynol: Fiji 14-21 Lloegr

Llwyddodd Filimone Bolavucu i fanteisio ar bas lac capten Lloegr, Simon Amor, a chroesi o dan y pyst i roi prif ddetholion y byd ar y blaen wedi 15 eiliad yn unig.

Ond gwnaeth Amor yn iawn am ei gamgymeriad wrth garlamu drosodd i ddod 芒'r Saeson yn gyfartal dau funud yn ddiweddarach.

Yna yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, croesodd Mathew Tait am ei seithfed cais o'r bencampwriaeth yn dilyn gwaith da gan Henry Paul.

A casglodd chwaraewr Newcastle Falcons ei ail gais o'r g锚m 芒 rhediad hyfryd o'i llinell gais ei hun i sgorio o dan y pyst ac ymestyn mantais Lloegr.

Croesodd Apolosi Satal am gais yn yr eiliad olaf ond nid oedd yn ddigon i atal y Saeson rhag greu sioc.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy