大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 14 Hydref 2010

Jenkins yn fodlon gyda pherfformiad t卯m Cymru

Wrth i Gemau'r Gymanwlad yn Delhi ddod i ben mae Cymru eisoes wedi troi eu golygon at y Gemau nesaf yn Glasgow ymhen pedair blynedd medd pennaeth y t卯m Chris Jenkins.

Athletwyr o Gymru yn ystod y seremoni gloi yn Delhi
Rob Weale, enillodd un o ddwy fedal aur Cymru yn Delhi, fu'n cario baner y Ddraig Goch yn Stadiwm Jawaharlal Nehru yn y seremoni i glo'r gemau.

Gorffennodd Cymru'r Gemau gyda chyfanswm o 19 o fedalau, yr un nifer a sicrhawyd yn Melbourne bedair blynedd yn 么l.

Weale a Dai Greene gipiodd y medalau aur i ychwanegu at saith medal arian a deg efydd yr enillodd Cymru yn ystod unarddeg diwrnod o gystadlu.

Ond dyma'r cyfanswm lleiaf o fedalau aur i Gymru sicrhau ers gemau Edmonton ym 1978.

Er hynny fe ddywedodd Chef de Mission Cymru Chris Jenkins yr oedd yn fodlon iawn gyda pherfformiad y t卯m yn Delhi.

"Mae pobl yn canolbwyntio ar y medalau aur ac mi fydde hi wedi bod yn dda pe byddwn wedi gallu troi rhai o'r medalau arian yn aur," meddai Jenkins.

"Ni allem fod wedi gofyn am fwy gan yr athletwyr. Fe wnaethon nhw roi popeth i geisio ennill aur.

"Ond weithiau tydi hynny ddim cweit yn ddigon.

Dywedodd Jenkins fod Gemau'r Gymanwlad yn golygu gymaint i'r Cymry.

"Tydyn nhw ddim yn cael y cyfle i gystadlu dros Gymru yn aml a 'dwi'n gwybod bod ennill wrth wisgo'r fest coch yn bwysig iawn.

"Fe welsom hynny gyda Dai Greene y Sul diwethaf."

Ychwanegodd Jenkins fod t卯m Cymru eisoes yn edrych ymlaen at y Gemau nesaf a fydd yn cael eu cynnal yn Glasgow yn 2014.

"Ry' ni wedi dod yma gyda th卯m eithaf ifanc ac wedi gweld perfformiadau cryf," meddai Jenkins.

"Does ond rhaid i chi edrych ar Becky James, Jazz Carlin, Jenny McLoughlin a Sean McGoldrick i weld bod gennym gystadleuwyr talentog.

"Mae hynny yn argoeli yn dda ar gyfer Glasgow 2014 a thu hwnt."

Dywedodd Jenkins fod Gemau'r Gymanwlad yn brofiad amhrisiadwy i'r cystadleuwyr fydd yn gobeithio cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn y dyfodol.

"Mae amgylchedd aml gamp yn wahanol i Bencampwriaeth Byd mewn campau unigol," meddai Jenkins.

"Mae 'na fwy o bethau yn mynd 'mlaen, gyda mwy o sylw gan y cyfryngau ac amgylchedd pentref y cystadleuwyr.

"Fe fydd ein cystadleuwyr ifanc wedi dysgu gymaint o'r Gemau hyd fydd yn eu helwa'n fawr ar gyfer Gemau'r dyfodol.

Bu Jenkins hefyd yn talu teyrnged i d卯m cefnogol Cymru, oedd wedi gorfod gweithio'n galed i sicrhau bod pentref y cystadleuwyr yn barod.

Bu pryderon am lendid a diogelwch cyn dechrau'r Gemau gyda Chymru ond yn cadarnhau eu presenoldeb ar 么l derbyn addewidion gan y trefnwyr.

"Mae 'na dim cefnogol hynod brofiadol wedi bod yma yn Delhi ac maen nhw wedi bod yn allweddol," meddai Jenkins.

"Hoffwn yn benodol ddiolch i'r staff wnaeth gyrraedd yn gynnar yn Delhi ac oedd yn benderfynol o ddatrys problemau er mwyn sicrhau bod y cystadleuwyr yn cyrraedd amgylchedd oedd yn eu galluogi i ganolbwyntio ar eu perfformiadau."


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy