Gorffennodd Thomas, 19, yn drydydd tu 么l i Sean Fenning o Awstralia a Hayden Roulston o Seland Newydd.
"Rwyf wrth fy modd, mae hyn yn arbennig," meddai Thomas wrth Adran Chwaraeon 大象传媒.
"Roeddwn wedi blino gymaint ond roedd rhaid i mi gadw mynd er bod pobl yn ymosod trwy'r amser.
"Rwyf mor falch o gael yr efydd, yn enwedig ar 么l y ddamwain llynedd," ychwanegodd.
Bu rhaid i Thomas gael llawdriniaeth giaidd wedi damwain erchyll wrth ymarfer ar gyfer cymal Sydney o Gwpan y Byd ym mis Chwefror 2005.
Dioddefodd anafiadau mewnol difrifol wedi rhywbeth ddisgyn oddi ar gefn lori gan chwalu olwyn flaen ei feic.
Disgynnodd cyn pencampwr iau'r byd yn drwm ar lyw ei feic a bu rhaid i feddygon dynnu ei sbl卯n.
Ac roedd hyfforddwr t卯m beicio Cymru, Julian Winn, yr un mor hapus wedi'r ras.
"Rwyf mor falch dros Geraint, ac mae'r canlyniad heddiw yn profi faint o dalent sydd ganddo," meddai Winn.
|