Gorffennodd y ddau Gymro gyda 1176 pwynt, gyda Mike Babb a Chris Hector o Loegr yn cipio'r aur a'r Albanwyr Sinclair Martin a Neil Stirton yn ail.
Roedd yna siom fodd bynnag i'r merched, gyda Johanne Brekke a Ceri Dallimore yn methu ailadrodd eu llwyddiant ym Manceinion, gan orffen yn bumed.
Bydd dynion a merched Cymru yn awr yn troi eu golygon at y gystadleuaeth unigol ddydd Mawrth.
 |