Bu rhaid i'r Cymro 29-mlwydd-oed weithio'n galed yn yr ornest pedwar rownd, ond sicrhaodd y fuddugoliaeth 31-9.
Dywedodd Evans: "Roedd yr union fath o ornest roeddwn angen er mwyn clirio fy mhen.
"Er fy mod wedi gwneud bywyd yn anodd i mi fy hun ar adegau, roeddwn yn gyfforddus."
Methodd Evans 芒 chyrraedd y rownd derfynol ym Manceinion wedi penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr i ddod 芒'i ornest yn y rownd gynderfynol i ben oherwydd trwyn gwaed er ei fod ar y blaen yn erbyn David Dolan o Loegr.
Bu rhaid iddo fodloni ar fedal efydd i ychwanegu at y fedal efydd gasglodd yn Kuala Lumpur ym 1998.
A chyfaddefodd y byddai wrth ei fodd i gasglu medal arall ym Melbourne.
"Byddai'n wych cael medal arall, ond cyn belled ag yr wyf i'n gwybod efallai bod yna Mike Tyson arall allan yna.
"Ond rwy'n teimlo'n dda ar hyn o bryd, nid wyf wedi dioddef twyn gwaed nag unrhyw anaf arall."
|