Fe all breuddwyd Gemau'r Gymanwlad Christian Malcolm fod ar ben wedi'r Cymro ddioddef anaf i linyn ei 芒r yn ystod ei ras rhagbrofol o'r 100m yn Melbourne.
Dioddefodd y gwibiwr 26-mlwydd-oed yr anaf yn gynnar yn ei ras, a bydd yn wynebu cyfnod pryderus cyn canfod os bydd yn gallu cystadlu yn y 200m a'r ras gyfnewid 4x100m.
"Teimlodd linyn ei 芒r yn brathu - rwy'n gobeithio nad yw'n fwy na hynny a bydd ar gael ar gyfer y 200m," meddai'r hyfforddwr, Phil Manning.
"Os yw'n fwy na hynny bydd rhaid i ni adael y penderfyniad i'r meddygon."
 |