Roedd Tracey Morris yn hapus iawn 芒'i pherfformiad yn y marathon yng Ngemau'r Gymanwlad er iddi fethu 芒 chipio medal wrth orffen yn bedwerydd.
Mae Morris, ddaeth i'r amlwg wrth sicrhau ei lle yng Ngemau Olympaidd Athen 芒 ras wych ym Marathon Llundain 2003, wedi dioddef ag anafiadau ers sawl mis.
"Rwyf ar ben fy nigon, nid oeddwn yn disgwyl hyn heddiw. Mae hyd yn oed fy rasys paratoadol wedi bod yn drychinebus," meddai'r ferch sy'n hanu o Gaergybi.
"Nid oedd gennyf unrhyw ddisgwyliadau cyn y ras felly rwy'n hapus iawn.
"Wrth ddod mor agos mae rhywun yn meddwl be fyddai wedi digwydd pe bawn i heb anafu, pe bawn i wedi gallu ymarfer, ond does dim pwynt meddwl felly.
"Llwyddais i redeg yr amser cyflymaf erioed felly ni allaf ofyn mwy na hynny - mae hynny cystal 芒 medal i mi."
|