Ac yntau yn dal record y byd, edrychodd Powell yn gyfforddus wrth orffen mewn amser o 10.03 eiliad.
Soji Fasuba o Nigeria oedd yn ail gyda Marc Burns o Drinidad yn sicrhau'r fedal efydd.
Marlon Devonish oedd yr unig gynrychiolydd o Loegr yn y rownd derfynol, gan orffen yn wythfed.
Yn gynharach roedd ei gyd wladwr, Mark Lewis-Francis, wedi ei ddiarddel o'r 100m yn y rownd gyn derfynol.
"Ni does gennyf esgusodion. Fi sydd ar fai. Dyliwn fod wedi cadw fy nisgyblaeth ac wedi disgwyl am y gwn," meddai Lewis-Francis.
 |