Matthew Cowdrey o Awstralia enillodd yr aur gyda Benoit Huot o Ganada yn sicrhau'r fedal arian.
"Rwy'n bell iawn o gartref, roedd fy rhieni ac fy nghariad yn gwylio ar y teledu ac mae'r perfformiad hwn ar eu cyfer hwy," meddai Roberts.
Derbyniodd gobeithion Cymru o ennill medal aur yn y pwll nofio hwb, wrth i David Davies ennill ei ras rhagbrofol o'r 1500m dull rhydd yn gyfforddus.
Mae Davies yn ffefryn i ennill y rownd derfynol ddydd Mawrth a sicrhau medal aur cyntaf Cymru yn y pwll ers 1974.
 |