"Roedd pawb yn disgwyl i mi ennill a roedd yn ryddhad mawr i wneud hynny," meddai Davies.
Daeth y Cymro 芒 record wych Awstralia o ennill pob medal aur yn y 1500m dull rhydd ers 1958 i ben mewn amser o 14 munud 57.63 eiliad.
Andrew Hurd o Ganada gafodd yr arian (15:09.44) gyda Hercules Prinsloo o Dde Affrica'n drydydd (15:11.88).
A chyda phencampwr y byd a'r Gemau Olympaidd, Grant Hackett o Awstralia, yn gorfod gwylio'r ras oherwydd anaf i'w ysgwydd, roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus i Davies.
"Roedd yn amser hir iawn i fod allan yn nofio ar fy mhen fy hun ond mae gorffen ar frig y podiwm yn deimlad gwych.
"Mae gen i ddyled mawr i fy hyfforddwr, Dave Haller, rwy'n falch iawn ac yn gobeithio gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd a pharhau 芒'r llwyddiant yn y dyfodol."
Davies, gafodd fedal efydd tu 么l i Hackett yng Ngemau Olympaidd Athen ac ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Montreal, yw'r Cymro cyntaf i gipio medal aur yn y pwll nofio ers i Patricia Bevan ennill y 200m dull broga ym 1974.
Ac mae'n ychwanegu'r aur at y fedal efydd gipiodd yn y 400m dull rhydd ar y diwrnod agoriadol.
Roedd ei amser buddugol yn llawer arafach na'i amser gorau, ond gan ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'r ras ymhell ar y blaen nid oedd angen i'r g诺r o'r Barri wthio ei hun yn ormodol i gipio'r aur.
|