Roedd Tullett, oedd yn ffefryn, mewn safle da gydag ychydig dros 100m o'r ras yn weddill.
Ond wrth geisio cicio am y llinell derfyn, gwelodd Tullett y Saesnes ifanc Lisa Dobriskey yn carlamu heibio a chipio'r aur.
A bu'n rhaid i'r ferch o Abertawe, gasglodd y fedal arian tu 么l i Kelly Holmes ym, Manceinion bedair blynedd yn 么l, fodloni'r ar yr efydd ym Melbourne wedi i Sarah Jamieson o Awstralia gipio'r arian.
 |