大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 23 Mawrth 2006
Evans yn gwireddu breuddwyd

Llwyddodd Kevin Evans i wireddu breuddwyd yn y sgw芒r bocsio wedi iddo sicrhau ei le yn rownd derfynol y pwysau go drwm yng Ngemau'r Gymanwlad.

Kevin Evans
Daeth y dyfarnwr 芒'i ornest i ben yn y drydedd rownd wedi iddo agor bwlch o 20 pwynt ar ei wrthwynebydd o Awstralia, Steven Rudic.

Ac wedi ennill medal efydd yn Kuala Lumpur ym 1998 ac ym Manceinion yn 2002, mae Evans, 29, yn sicr o gasglu un ai medal aur neu fedal arian ym Melbourne.

"Rwyf wedi gwireddu breuddwyd, "meddai'r g诺r o Gaerfyrddin wrth Adran Chwaraeon 大象传媒.

"Mae'n anodd credu'r peth, roeddwn yn meddwl, wedi casglu dwy fedal efydd nad oedd yn bosib i mi gyrraedd y rownd derfynol yn y Gymanwlad."

Ac er ei fod ymhell ar y blaen trwy gydol yr ornest, roedd eiliadau nerfus iawn i'r Cymro wedi'r dyfarnwr ofyn i'r meddyg archwilio briw o dan ei lygaid.

Ac wedi colli allan ar gyrraedd y rownd derfynol ym Manceinion oherwydd trwyn gwaed, roedd Evans, 29, yn ofni'r gwaethaf.

"Teimlais ei fawd yn fy llygaid ac am tua 15 eiliad roedd yn anodd gweld trwyddo.

"A phan welais y dyfarnwr yn edrych ar y briw roeddwn i'n meddwl 'dyma ni eto'.

"Ond rwyf drwodd ac mae'n anodd gen i gredu'r peth."

Bydd Evans, 29, yn herio David Price o Loegr yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn wedi'r Sais drechu Varghese Johnson o India mewn gornest hynod gyffrous.

Yn anffodus i d卯m Cymru, colli oedd hanes y tri bocsiwr arall o Gymru yn eu rowndiau cynderfynol ddydd Iau.

Yn y Pwysau Ply (48kg) collodd Mohammed Nasir yn erbyn Darran Langley o Loegr, 19-13.

Bu'n ddiwrnod llwyddiannus i'r Saeson yn erbyn y Cymry gyda James Rusan yn trechu Jamie Crees yn Pwysau Ply (64kg) i gyrraedd y rownd derfynol.

Gorfod bodloni ar fedal efydd fydd Darren Edwards, gollodd yn erbyn Stephen Smith o Loegr.

Ym Manceinion bedair blynedd yn 么l, enillodd Jamie Arthur fedal aur gyntaf Cymru yn y sgw芒r focsio ers Howard Winstone yng Ngemau Caerdydd ym 1958.

Enillodd bocswyr Cymru chwe medal y flwyddyn honno ac yng Nghaeredin ym 1986 sicrhawyd pum medal.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy