Roedd Williams eisoes wedi gosod dwy record bersonol ar ei ffordd i'r rownd derfynol.
Ac o flaen torf enfawr ym Maes Criced Melbourne, llwyddodd pencampwr dan-23 Ewrop i dorri record Gymreig Matt Elias.
"Byddwn wedi bod wrth fy modd ennill medal, ond rwy'n fwy na hapus gyda'r amser," meddai Williams wrth Adran Chwaraeon 大象传媒.
Louis Van Zyl o Dde Affrica gafodd yr aur mewn record newydd i'r Gemau o 48.05s, gyda'i gydwladwr, Alwyn Myburgh, yn casglu'r arian a Kemel Thompson o Jamaica yn cael yr efydd.
Roedd pencampwr 2002, Chris Rawlinson, yn llawn canmoliaeth o'r Cymro ifanc.
"Yr wyf wedi ymarfer gyda Rhys dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n athletwr da," meddai Rawlinson, orffennodd yn olaf yn y ras.
"Mae wedi profi ei hun mewn pencampwriaeth a phob lwc iddo."
|