Roedd diweddglo dadleuol i'r gystadleuaeth wedi Crane fethu 芒 chwblhau ei naid olaf.
Penderfynodd y Gymraes i dynnu yn 么l o'i thrydydd cais i glirio 1.91m ar yr eiliad olaf.
Ond tra bo Crane yn paratoi i neidio eto, cododd y swyddog ei lliman goch i ddynodi fod Crane wedi croesi o dan y bar.
"Fe wnes i brotestio ar y pryd, ond ni chefais gyfle i neidio eto, ac mae hynny'n siomedig," meddai Crane.
"Mae'n rhaid i mi fod yn hapus gyda'r arian, mae'n dda fy mod wedi sicrhau medal arall ar gyfer Cymru. Bydd fy nheulu a fy ffrindiau yn falch iawn.
"Rwyf yn teimlo y byddwn wedi gallu ennill yr aur."
|