Mewn g锚m hynod gyffrous roedd angen datglwm ar Kelvin Kerkow o Awstralia i drechu Robert Weale a sicrhau'r fedal aur.
Kerlow gipiodd y set gyntaf 7-4 cyn i'r Cymro daro'n 么l 9-2 yn yr ail set.
Roedd Weale 1-0 ar y blaen wedi'r pen cyntaf o'r datglwm, a roedd o fewn trwch blewyn i gipio'r aur gyda'i b锚l agosaf at y jac cyn i Kerlow fowlio ei belen olaf o'r ail ben.
Ond cafwyd pelen anhygoel gan Kerlow wrth iddo ddod yn gyfartal 1-1 cyn selio'r fuddugoliaeth ar y trydydd pen.
Ac roedd arian i Betty Morgan o Gymru yn senglau'r merched hefyd wedi Zalina Ahmad o Malaysia, gipiodd yr aur ym Manceinion, amddiffyn ei choron.
>
Arian i Weale a Morgan
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Gwener 24 Mawrth
ATHLETAU
Gorffennodd Tanni Grey Thompson yn bedwerydd yn 800m y gystadleuaeth EAD T54 ar y trac ym Maes Criced Melbourne.
Ond roedd yn noson emosiynol i gapten t卯m Cymru wrth iddi gystadlu am y tro olaf yng nghrys coch Cymru a gorffennodd y ras yn ei dagrau.
Methodd James Thie 芒 chyrraedd rownd derfynol y 1500m wedi gorffen yn wythfed yn ei ras yn y rownd agoriadol, ac roedd Scott Simpson yn chweched yn y naid 芒 pholyn.
Ond roedd newyddion drwg i d卯m 4x400m Cymru wedi iddynt orfod tynnu allan o'r gystadleuaeth oherwydd anaf i Rhys Williams.
>
Dim t卯m 4x400m i Gymru
SBONCEN
Roedd siom i Alex Gough a David Evans yn rownd yr wyth olaf o ddyblau'r dynion wrth iddynt golli yn erbyn Dan Jenson a David Palmer o Awstralia.
A colli yn rownd yr wyth olaf o'r dyblau cymysg oedd hanes Tegwen Malik a Gavin Jones hefyd wrth i Natalie Grinham a Joseph Kneipp o Awstralia ennill drwodd.
TENIS BWRDD
Roedd siom i Gymru yng nghystadleuaeth y dyblau i ddynion gyda Ryan Jenkins ac Adam Robertson, gipiodd arian ym Manceinion yn 2002, yn colli yn erbyn Alan Cooke a Paul Drinkhall o Loegr yn rownd yr wyth olaf.
Ond llwyddodd Adam Robertson, 22, i dalu'r pwyth yn 么l wrth iddo drechu Alan Cooke yn rownd yr wyth olaf o'r senglau.
|